BYDDWCH YN SIONCACH EICH CAM!
Ein bwriad yw creu cymunedau mwy diogel, a gallwch helpu trwy ruthro i weithredu i sicrhau eich diogelwch chi a’ch teulu. Y peth pwysicaf fedrwch chi ei wneud yw cael o leiaf un larwm mwg gweithredol ar bob llawr yn eich cartref. I lawer o bobl yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, mae cael larwm mwg gweithredol wedi golygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd ac anafiadau difrifol iawn (neu waeth).
Mae’n bwysig fod y rhai hynny ohonoch sydd wedi derbyn Archwiliad Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref yn gwirio’n rheolaidd fod eich larwm mwg yn gweithio’n iawn. Os ydym wedi gosod larwm ar eich cyfer, bydd yn cynnwys batri 10 mlynedd ....ond mae angen i chi wirio fod y larwm yn gweithio’n iawn trwy bwyso’r botwm un waith yr wythnos. Os ydych wedi gosod eich synhwyrydd eich hun gyda batri blwyddyn, gwiriwch yr uned yn wythnosol a sicrhewch eich bod yn newid y batri pan glywir y sŵn batri’n isel, neu o leiaf un waith y flwyddyn. Gwiriwch eich larymau’n rheolaidd, os gwelwch yn dda - gallent achub eich bywyd.
Rydym yn parhau i ddatblygu ac ehangu amrywiaeth eang o wasanaethau addysgol ac ataliol sy’n seiliedig ar y gymuned, ac maent yn canolbwyntio ar y bobl sydd fwyaf wrth risg.
Mae ein rhaglen o wella ac uwchraddio ein peiriannau tân ac offer i safonau’r 21ain ganrif yn parhau. Mae hyn yn ein galluogi i ymdrin â’r amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a fynychwn, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn argyfyngau ar wahân i dân erbyn hyn, megis gwrthdrawiadau ar y ffordd.
Mae amrywiaeth eang o wybodaeth ar gael ar y safle gwe hwn, a gobeithiwn y bydd o ddiddordeb i chi. Mae ein cynlluniau penodol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn gynwysedig ein Gweithredu 2008/2009.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, naill ai am ein Gwasanaeth neu’r safle gwe hwn, byddai’n dda gennym glywed oddi wrthych.