
Polisi Cysylltu
Cysylltu â Ni
Rydym yn gwerthfawrogi dolenni sy’n dyfod i mewn o unrhyw le ac oddi wrth unrhyw un. Nid oes angen caniatâd penodol arnoch i gysylltu â gwefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru os wnewch chi lynu wrth y canllawiau canlynol:
- Defnyddiwch ddolen testun seiliedig i’r hafan ar http://www.mawwfire.gov.uk/
- Dylai testun y ddolen gynnwys enw llawn ‘Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru’, h.y. dim acronymau
- Gallwch gysylltu ag un dudalen unigol o fewn y safle (cyswllt dwfn), ond byddwch yn glir eich bod yn cysylltu â thudalen ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Byddwch yn ymwybodol ein bod yn cadw’r hawl i newid strwythur y wefan ar unrhyw adeg ac mae’n bosib y bydd cysylltiadau dwfn yn ddarfodedig o’r herwydd.
- Peidiwch â chysylltu gyda ein gwefan o fewn fframiau.
- Ni ellir defnyddio ein graffeg, ffotograffau, logos a saethiadau sgrîn heb ganiatâd o flaen llaw. Os hoffech geisio caniatâd, cliciwch ar Cysylltu â Ni os gwelwch yn dda.
Gyda phwy yr ydym ni wedi cysylltu?
Gallwn ddarparu dolen i safle os credir ei fod yn hynod o berthnasol i amcanion a blaenoriaethau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Nid ydym yn darparu dolenni i gwmnïau preifat, oni bai fod y cwmni preifat yn darparu gwasanaeth cydnabyddedig a chenedlaethol.
Nid ydym yn darparu dolenni i wefannau personol.
Sut ydym yn penderfynu?
Bydd gwefan yn cael ei asesu ar natur ei chynnwys ac ansawdd yr wybodaeth neu’r math o wasanaethau mae’n darparu.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cadw’r hawl i wrthod neu ddileu dolen ar unrhyw adeg, heb rybudd o flaen llaw.
Os hoffech awgrymu dolen, cliciwch ar Cysylltu â Ni os gwelwch yn dda.
Gwadiad Dolenni Allanol
Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys gwefannau allanol. Nid yw bodolaeth dolen i wefan allanol neu ddolen i’n gwefan ni o wefan allanol yn golygu ein bod yn ardystio gweithgareddau neu farnau’r gymdeithas honno.
Ni fydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ar unrhyw adeg, yn gyfrifol neu’n atebol, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, am unrhyw ddifrod neu golled a achoswyd gan, neu mewn cysylltiad â’r defnydd o, neu ddibyniaeth ar unrhyw gynnwys, nwyddau neu wasanaethau o’r fath sydd ar gael ar, neu drwy unrhyw safle neu adnodd o’r fath.
Os hoffech inni ddileu neu ddiwygio dolen i’ch gwefan chi yna cliciwch ar Cysylltu â Ni.