Archwiliadau Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref
O hyn ymlaen bydd diffoddwyr tân a staff diogelwch rhag tân yn y gymuned o’r Gwasanaeth yn ymweld ag adeiladau domestig i ddarparu cyngor ar ddiogelwch rhag tân yn y cartref ac mewn rhai achosion, byddant yn medru gwirio neu osod synwyryddion mwg yn rhad ac am ddim. Yr archwiliadau yma yw conglfaen y rôl rhagweithiol a fabwysiadwyd gan y Gwasanaeth yn ei ymdrech i leihau marwolaethau ac anafiadau a achoswyd gan danau damweiniol.
Gallwch ofyn am archwiliad diogelwch rhag tân yn y cartref ar eich cyfer chi, neu berthynas sy’n ddibynnol arnoch, trwy gysylltu â’r Gwasanaeth ar 0800 169 1234.
mwy »
Gwybodath Diogelwch Tân
Ydi eich cartref yn ddiogel?
Negeseuon Diogelwch Tân Roy Noble
Cyngor ar gyfer Digwyddiadau
Ydych chi’n trefnu digwyddiad? Mae’n bosib y byddwn yn medru darparu cyngor ac arddangosiadau ar ddiogelwch rhag tân.
Beth i’w wneud os oes tân
Cynlluniau Addysg Diogelwch Rhag Tân
Mae rhoi ymwybyddiaeth o dân i blant bach yn allweddol wrth leihau’r nifer o ddamweiniau sy’n ymwneud â thân, ac mae’n helpu i leihau’r nifer o ymosodiadau o losgi bwriadol a ffug alwadau.
Gwefannau Perthynol