www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Archwiliadau Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref
Er mwyn lleihau amledd tanau damweiniol mewn anheddau o fewn ei ardal, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi dechrau ar raglen uchelgeisiol o Archwiliadau Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref (HFSC).

O hyn ymlaen bydd diffoddwyr tân a staff diogelwch rhag tân yn y gymuned o’r Gwasanaeth yn ymweld ag adeiladau domestig i ddarparu cyngor ar ddiogelwch rhag tân yn y cartref ac mewn rhai achosion, byddant yn medru gwirio neu osod synwyryddion mwg yn rhad ac am ddim. Yr archwiliadau yma yw conglfaen y rôl rhagweithiol a fabwysiadwyd gan y Gwasanaeth yn ei ymdrech i leihau marwolaethau ac anafiadau a achoswyd gan danau damweiniol.

Mae achosion nodweddiadol tanau yn y cartref yn cynnwys

  • Poptái wedi eu gadael heb neb i ofalu amdanynt
  • Esgeulustod wrth waredu sigaréts
  • Socedi trydan wedi eu gorlwytho
  • Plant yn chwarae gyda matsis

Mae archwiliad diogelwch rhag tân yn y cartref yn cymryd tua awr i’w gwblhau ac yn gyffredinol caiff ei gynnal gan ddau gynrychiolydd o’r Gwasanaeth Tân. Gallwch wneud cais am archwiliad diogelwch rhag tân yn y cartref ar eich cyfer chi neu berthynas dibynnol trwy gysylltu â’r Gwasanaeth ar 0800 169 1234 neu trwy e-bostio eich cais at eich Swyddfa Gwasanaeth Tân leol trwy gyfrwng un o’r dolenni isod.

Request a home fire safety check
Eich Manylion

Enw:


Cyfeiriad:


Area of Residance


Rhif Ffôn:


Ebost:


Cyfeiriad yr adeilad sydd i’w asesu
(os yn wahanol i’r cyfeiriad uchod)


Sylwadau Ychwanegol


Ble glywsoch chi am hyn?





© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service