
Barbeciwiau
Er mwyn sicrhau fod eich barbeciw yn brofiad diogel a phleserus i’r teulu i gyd, dilynwch y canllawiau syml yma:
- Dylid lleoli’r barbeciw ar lefel y ddaear, yn ddigon pell oddi wrth dai, siedau, ffensys, coed a llwyni trosgrog, lle nad oes yn rhaid i bobl wthio eu ffordd heibio iddo.
- Llenwch ef i ddyfnder o oddeutu 5cm (2 fodfedd). Storiwch y golosg yn ddigon pell oddi wrth y tân.
- Defnyddiwch bethau cynnau tân neu’r swm lleiaf o danwydd tanio. NID PETROL.
- Gwisgwch ddillad addas pan yn coginio.
- Peidiwch fyth â gadael y barbeciw heb ofal, a chadwch y plant a gemau yn yr ardd yn ddigon pell pan yn coginio.
- Pan yn coginio bwydydd seimllyd, mae braster sy’n diferu ar lo poeth yn medru achosi i’r tân i ffyrnigo.
- Wedi ei ddefnyddio gadewch i’r barbeciw oeri cyn ei storio. Gwaredwch y lludw dros bridd noeth yn yr ardd – peidiwch fydd â’i osod yn y bin.
- Newidiwch silindrau nwy y barbeciw yn yr awyr agored, gan sicrhau fod y botymau rheoli a falf y silindr wedi eu troi i ffwrdd.
- Os ydych yn amau fod nwy yn gollwng gwiriwch y cysylltiadau a’r pibau i weld os ydynt yn gollwng trwy eu brwsio â dwr sebonllyd a chwiliwch am swigod. Os nad ydych yn sïwr yna, pheidiwch â’i ddefnyddio a cheisiwch gyngor arbenigol.
- Wedi coginio trowch y silindr i ffwrdd yn gyntaf ac yna botymau rheoli’r barbeciw, er mwyn defnyddio unrhyw nwy sy’n weddill yn y pibau.
- Dylid storio’r silindrau tu allan, yn ddigon pell oddi wrth rew a golau’r haul. Peidiwch â chadw fwy o silindrau’n sbâr nag sydd angen arnoch.