www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Cyngor ar gyfer Digwyddiadau - Gwersylla
Mae pawb yn hoffi ymlacio a mwynhau yn yr awyr agored pan eu bod yn carafanio ac yn gwersylla. Ond peidiwch ag anghofio dilyn rhagofalon diogelwch rhag tân oherwydd eich bod ar wyliau. Mae’n bleser gennym gyflwyno ein canllawiau i’ch helpu i leihau’r risgiau.

Y Pethau Sylfaenol

  • Sicrhewch fod bwlch o 6 metr, o leiaf, rhwng carafannau a phebyll.

  • Ceisiwch ddarganfod beth yw’r trefniadau ar gyfer diffodd tanau yn y gwersyll, a ble mae’r ffôn agosaf.

  • Cariwch fwced tân gyda chi, a chadwch ef yn barod i’w ddefnyddio nesaf at eich uned.

  • Cadwch dortsh wrth law rhag ofn bydd argyfwng. Peidiwch â defnyddio canhwyllau wedi’u cynnau.


Mae tanau mewn pebyll a charafannau’n lledu’n gyflym iawn. Os oes tân:

  • Ceisiwch gael pawb allan ar unwaith.

  • Galwch y gwasanaeth tân a rhowch yr union leoliad.

  • Rhowch gyfeirnod map, os yn bosib.

  • Fel arall, cyfeiriwch at le enwog megis fferm neu dafarn ayb, i’w helpu i ddod o hyd i chi.


Carafannau

  • Gosodwch synhwyrydd mwg yn eich carafán.

  • Byddwch yn ofalus wrth goginio - peidiwch â gadael sosbenni sglodion heb neb i gadw llygad arnynt.

  • Cadwch fatsis a thanwyr sigaréts allan o gyrraedd plant.

  • Os ydych yn ysmygu, defnyddiwch flwch llwch metel addas. Peidiwch fyth ag ysmygu yn y gwely.

  • Ni ddylid gadael plant ar eu pennau hunain mewn carafán.

  • Gwyntyllwch y garafán. Peidiwch â blocio fentiau aer - gallai’r canlyniadau fod yn farwol.

  • Cadwch ddiffoddiadur yn y garafán, ger y drws.


Poteli Nwy

  • Cadwch silindrau tu allan i’ch carafán.

  • Diffoddwch bob peiriant neu offer cyn mynd i’r gwely neu cyn gadael y garafán.

  • Diffoddwch y silindrau oni bai fod y peiriannau neu’r offer (megis oergell) wedi eu dylunio i redeg trwy'r amser.

  • Peidiwch fyth â defnyddio popty neu wresogydd tra bod fan wersylla neu garfan yn symud.

  • Newidiwch y poteli nwy pan eu bod yn gwbl wag yn unig.


Os ydych yn amau fod yna ollyngiad nwy:

  • Diffoddwch bob peiriant ac offer a phrif falf y silindr.

  • Agorwch y drysau a’r ffenestri i gyd.

  • Peidiwch ag ysmygu na chyffwrdd â switshis trydan.


Pebyll

  • Peidiwch fyth â defnyddio canhwyllau mewn pabell neu gerllaw pabell. Mae tortshis yn llawer mwy diogel.

  • Cadwch fatsis a thanwyr sigaréts allan o gyrraedd plant.

  • Dylid cadw hylifau fflamadwy a silindrau nwy tu allan i’r babell ac allan o gyrraedd plant.

  • Ni ddylid defnyddio offer llosgi olew mewn pebyll nac yn agos atynt.

  • Cadwch offer coginio oddi wrth y waliau a’r to, a lle gellir eu tipio’n hawdd.

  • Ni ddylid defnyddio offer coginio mewn pebyll bach.

  • Cadwch ddeunydd fflamadwy, yn cynnwys glaswellt hir, i ffwrdd oddi wrth yr ardal lle’r ydych yn coginio.

  • Peidiwch ag ysmygu mewn pebyll.

  • Agorwch y drysau a’r ffenestri i gyd.

  • Paratowch gynllun dianc, a byddwch yn barod i dorri eich ffordd allan o’r babell os oes tân.

  • Sicrhewch fod pawb yn gwybod sut i ddiffodd tân os yw eu dillad ar dân - stopiwch, disgynnwch a rholiwch.

  • Atal yw’r ateb. Mae tân yn medru dinistrio pabell mewn llai na 60 eiliad. Peidiwch â defnyddio fflamau noeth mewn pebyll.


© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service