Gwybodaeth am Ddiogelwch Rhag Tân – Llety Dros Dro
Mae nifer o sefydliadau y gallwch gysylltu â nhw, a fydd yn medru helpu i ddiogelu eich adeilad rhag unrhyw ddifrod pellach wedi’r tân. Os yw eich cartref wedi’i yswirio, cysylltwch â nhw cyn gynted ag sy’n bosib a byddant yn eich helpu i gymryd y camau angenrheidiol.
Yswiriant
Dylech gysylltu â’ch yswirwyr y cyfle cyntaf a gewch, i’w hysbysu o’r digwyddiad, a dychwelwch ffurflen hawlio atynt cyn gynted ag sy’n bosib. Mae’n bosib y byddant eisiau archwilio’r adeilad cyn i chi symud unrhyw beth, felly gofynnwch iddyn nhw yn gyntaf. Gellir mynd ag arian parod sydd wedi llosgi’n rhannol i’r banc, a byddant yn barod i roi arian i chi yn ei le. Os ydych yn rhentu neu’n prydlesu’r adeilad, dylech chi gysylltu â’r landlord neu ei asiant.
Os nad oes gennych yswiriant, dylech chi gysylltu â’ch Swyddfa Nawdd Cymdeithasol leol, oherwydd efallai gallant gynnig cymorth ariannol i chi.
Diogelu’r Adeilad
Os yw’r tân wedi gadael eich adeilad mewn cyflwr anniogel, dylech chi gau'r drysau a’r ffenestri i gyd, oherwydd maent yn denu lladron. Dylid byrddio drysau neu ffenestri sydd wedi torri i fyny. Mae nifer o gontractwyr yn y Yellow Pages sy’n cynnig y gwasanaeth hwn, ond fe ddylech chi ofyn i’ch yswirwyr yn gyntaf. Os ydych yn denant i’r cyngor, dylech chi gysylltu â’ch Adran Dai leol, a fydd yn darparu’r gwasanaeth hwn. Hefyd, mae’n beth call i chi gysylltu â’r Heddlu lleol, i sicrhau eu bod yn gwybod fod eich adeilad yn wag a heb fod yn ddiogel.
Llety Dros Dro
Os ydych yn pryderu am addasrwydd eich llety wedi’r tân, cysylltwch â’ch Adrannau Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol lleol i wneud trefniadau arall.