Gwybodaeth am Ddiogelwch Rhag Tân - Glanhau
Mae’r gwaith o adfer wedi tân yn y cartref yn medru cymryd tipyn o amser. Dylai’r wybodaeth ganlynol helpu i ysgafnhau’r faich, a sicrhau y byddwch yn medru dychwelyd i’ch cartref cyn gynted ag sy’n bosib.
Glanhau
Gall gymryd amser hir i bethau ddychwelyd i’w harfer yn dilyn tân, a bydd llawer o’r pethau fydd yn rhaid i chi eu gwneud yn newydd i chi.
Os nad oes gennych yswiriant, mae’n debygol bydd eich adferiad yn dilyn tân yn dibynnu ar eich adnoddau eich hunan.
Mae’r sefydliadau preifat sy’n medru helpu yn cynnwys y Groes Goch Brydeinig a Byddin yr Iachawdwriaeth. Hefyd, gallech siarad â’ch Eglwys neu’ch Synagog. Mae’n bosib bydd grwpiau dinesig lleol megis Clybiau Llewod neu Rotari yn medru helpu hefyd.
Cyflenwadau Gwasanaeth Cyhoeddus
Os yw eich cyflenwad trydan, nwy neu dd?r wedi cael ei ddifrodi gan y tân, dylech chi gysylltu â’ch cyflenwr i drefnu i gael eich ailgysylltu. Peidiwch â cheisio ailgysylltu na throi’r cyflenwad ymlaen eich hun.
Cefnogaeth i Ddioddefwyr Tân
Mae’r Groes Goch Brydeinig yn cynnig gwasanaeth Cefnogi Dioddefwyr Tân, a luniwyd i ddiwallu anghenion pobl sydd wedi dioddef difrod i’w cartrefi o ganlyniad i dân, llifogydd neu ddigwyddiad tebyg. Gwasanaeth di-dâl yw hwn, a ddarperir gan wirfoddolwyr hyfforddedig, sy’n gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub lleol.
Dogfennau a Chofnodion Gwerthfawr yn lle’r rhai a gollwyd
Trwydded Yrru - DVLA
Llyfrau Banc – eich banc, cyn gynted ag sy’n bosib
Polisïau Yswiriant – eich asiant yswiriant
Pasbortau – Gwasanaeth Pasbort y DU
Tystysgrifau geni, marwolaeth, priodas – Y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol
Papurau Ysgariad – y Llys lle cyhoeddwyd yr archddyfarniad
Nawdd Cymdeithasol – yr Adran Gwaith a Phensiynau
Cardiau Credyd - y cwmnïau a’u rhoddodd i chi, cyn gynted ag sy’n bosib
Teitlau neu ddogfennau gweithred – adran gofnodion y ddinas neu’r sir lle lleolir yr adeilad
Stociau a bondiau – y cwmni a’u rhoddodd i chi neu eich brocer
Ewyllysiau - eich cyfreithiwr
Cofnodion meddygol – eich meddyg
Gwarantau – y cwmni a’u rhoddodd i chi
Cofnodion treth incwm – Y Ganolfan Gwasanaeth Cyllid y Wlad lle eu cedwir nhw neu eich cyfrifydd
Dogfennaeth cofrestru eich cerbydau - DVLA
Cynghorion ar Arbed
Dillad
Weithiau gellir golchi arogl mwg a pharddu allan o ddillad. Yn aml bydd y fformiwla ganlynol yn gweithio ar gyfer dillad a ellir eu cannu:
- 4-6 llwy fwrdd o Drisodiwm Ffosffad
- l cwpanaid o gannydd clorin at ddefnydd yn y cartref
- l galwyn o dd?r cynnes
Cymysgwch yn dda, ychwanegwch y dillad, swilwch gyda d?r clir a sychwch nhw’n dda.
Byddwch yn ymwybodol fod Trisodiwm Ffosffad yn sylwedd costig, a ddefnyddir fel hylif glanhau. Dylid ei ddefnyddio’n ofalus a’i storio allan o gyrraedd plant ac anifeiliaid anwes. Gwisgwch fenig rwber pan fyddwch yn ei ddefnyddio. Darllenwch y label yn ofalus. I gael gwared ar lwydi, golchwch y staen ffres gyda sebon a d?r cynnes. Yna swilwch ef a’i sychu yn yr haul. Os nad yw’r staen wedi diflannu, defnyddiwch sudd lemwn a halen, neu hydoddiant gwanhaëdig o gannydd clorin at ddefnydd yn y cartref.
Offer Coginio
Dylech chi olchi eich potiau, sosbenni, llestri, ayb., gyda d?r a sebon, eu swilo â’u sgleinio gyda glanhawr powdwr mân. Gallwch sgleinio copr a phres gyda ch?yr arbennig, halen wedi’i ysgeintio ar ddarn o lemwn neu ar glwtyn wedi’i drwytho mewn finegr.
Offer Trydanol
Ni ddylid defnyddio offer sydd wedi cael eu hamlygu i dd?r neu stêm nes bod cynrychiolydd o’r gwasanaeth wedi eu profi. Mae hyn yn bwysig iawn o safbwynt offer trydanol. Yn ogystal, mae stêm yn medru tynnu’r iraid oddi ar rai darnau sy’n symud. Os gwnaeth yr adran dân ddiffodd eich cyflenwad nwy neu drydan yn ystod y tân, ffoniwch y cwmni trydan neu nwy i ailgysylltu’r gwasanaethau yma -PEIDIWCH Â MYND ATI I WNEUD HYN EICH HUN.
Bwyd
Golchwch fwydydd tun mewn glanedydd a d?r. Gwnewch yr un fath gyda bwydydd mewn jariau. Os fydd y labeli’n dod i ffwrdd, gwnewch yn si?r eich bod yn marcio enw’r cynnwys ar y tun neu’r jar gyda phensel gwêr. Peidiwch â defnyddio bwydydd mewn tun os yw’r tuniau wedi chwyddo, tolcio neu rydu.
Os nad yw eich rhewgell yn gweithio bellach, gallwch arbed y bwyd sydd wedi’i rewi. Cadwch ddrws y rhewgell ar gau. Mae eich rhewgell wedi’i hinswleiddio’n ddigonol i gadw’r bwyd wedi’i rewi am o leiaf un diwrnod - efallai dau neu dri diwrnod. Symudwch eich bwyd i rewgell eich cymydog neu locer a rentir. Lapiwch y bwydydd sydd wedi eu rhewi mewn papur newyddion a blancedi, neu defnyddiwch flychau wedi eu hinswleiddio. Peidiwch ag ail-rewi bwydydd sydd wedi dadlaith.
Er mwyn cael gwared yr arogl o’ch oergell neu rewgell, golchwch y tu mewn gyda chymysgedd o soda pobi a d?r, neu defnyddiwch gwpanaid o finegr neu amonia at ddefnydd yn y cartref i un galwyn o dd?r. Mae rhai’n rhoi soda pobi mewn cynhwysydd agored, neu’n rhoi darn o olosg yn yr oergell neu’r rhewgell i amsugno’r arogl.
Lloriau a Rygiau
Pan fod d?r yn mynd i mewn o dan linoliwm, gall achosi arogl a chamdroi lloriau pren. Os yw hyn yn digwydd, tynnwch y ddalen gyfan. Os yw’r linoliwm yn fregus, gall lamp wres ei meddalu fel y gellir ei rholio heb ei thorri. Os tynnir y ddalen allan yn ofalus, gellir ei hail-smentio wedi i’r llawr sychu’n llwyr. Os oes pothelli bach yn y linoliwm, gellir gwneud tyllau bach gyda hoelen a’u hail-smentio, os fyddwch chi’n ofalus. Teneuwch bast linoliwm arferol yn ddigon tenau i fynd trwy chwistrell, a saethwch y gludydd trwy dwll yr hoelen. Gosodwch frics neu estyll ar ben y linoliwm. Fel arfer gellir smentio teils rhydd o unrhyw fath. Arhoswch nes bod y llawr yn gwbl sych cyn cychwyn ar y gwaith.
Dylid gadael i rygiau a charpedi i sychu’n llwyr hefyd. Gellir glanhau rygiau taflu trwy eu curo, ysgubo neu fynd â’r sugnwr llwch drostynt, ac yna eu siamp?o. Dylid sychu rygiau mor gyflym ag sy’n bosib. Rhowch nhw allan i sychu yn wastad, ac amlygwch nhw i gylched o aer cynnes a sych. Bydd ffan sy’n wynebu’r rygiau’n eu helpu i sychu yng nghynt. Er bod yr arwyneb i weld yn sych, mae lleithder yng ngwraidd y twffiau yn medru achosi i rygiau bydru’n gyflym. I gael gwybodaeth am lanhau a chadw carpedi, ffoniwch eich deliwr neu’ch gosodwr carpedi neu berson proffesiynol cymwys sy’n glanhau carpedi.
Matresi a Chlustogau
Mae’n anodd iawn, os nad yn amhosib, atgyflyru matres sbring mewnol yn y cartref. Mae’n bosib bydd cwmni sy’n cynhyrchu neu’n atgyweirio matresi yn medru adnewyddu matresi. Os oes yn rhaid i chi ddefnyddio eich matres dros dro, rhowch y fatres yn yr haul i sychu. Yna, gorchuddiwch hi gyda llieiniau rwber neu blastig. Mae bron yn amhosib cael arogl mwg allan o glustogau. Mae’r plu a’r ewyn yn dueddol o gadw’r arogl.
Lledr a Llyfrau
Sychwch nwyddau lledr gyda chlwtyn llaith, ac yna gyda chlwtyn sych. Stwffiwch byrsiau ac esgidiau gyda phapur newydd i gadw eu siâp. Gadewch gesys dillad yn agored. Dylid sychu nwyddau lledr allan o gyrraedd gwres a’r haul. Pan fydd y nwyddau lledr yn sych, glanhewch nhw gyda sebon lledr. Gallwch ddefnyddio gwlân dur neu frwsh swêd ar swêd. Swilwch siacedi lledr a swêd mewn d?r oer a sychwch nhw allan o gyrraedd gwres a’r haul.
Mae’n rhaid ymdrin â llyfrau gwlyb cyn gynted ag sy’n bosib. Y ffordd orau o arbed llyfrau gwlyb yw eu rhewi mewn rhewgell sugno. Bydd y rhewgell arbennig hon yn cael gwared ar leithder heb niweidio’r tudalennau.
Os bydd oedi tra eich bod yn ceisio dod o hyd i rewgell o’r fath, rhowch nhw mewn rhewgell arferol nes y gellir dod o hyd i rewgell sugno.
Cloeon a Cholfachau
Dylid tynnu cloeon yn ddarnau (yn enwedig cloeon haearn), a’u sychu gyda cherosin a’u hiro. Os na ellir tynnu’r cloeon, chwistrellwch olew peiriannau trwy dwll y bollt neu dwll y clo, a throwch y bwlyn i ddosbarthu’r olew. Dylid glanhau ac iro colfachau’n drylwyr.
Waliau a Dodrefn
Er mwyn cael gwared ar barddu a mwg ar y waliau, ar ddodrefn a lloriau, cymysgwch:
- 4-6 llwy fwrdd o Drisodiwm Ffosffad
- l cwpanaid o gannydd clorin at ddefnydd yn y cartref
- l galwyn o dd?r cynnes
Gwisgwch fenig rwber pan fyddwch yn glanhau. Wedi golchi’r gwrthrych, swilwch ef gyda d?r cynnes a chlir, a sychwch ef yn dda.
Gellir golchi waliau tra eu bod yn wlyb. Defnyddiwch sebon neu lanedydd ysgafn. Golchwch ardal fach ar y tro, gan weithio o’r llawr i fyny. Yna swilwch y wal gyda d?r clir yn syth. Dylid golchi’r nenfwd ddiwethaf. Peidiwch â’u peintio nes bod y waliau a’r nenfwd yn gwbl sych.
Gellir atgyweirio papur wal hefyd. Defnyddiwch bast masnachol i ail-bastio ymylon neu adrannau sy’n rhydd. Cysylltwch â’ch deliwr neu’ch gosodwr papur wal i gael gwybodaeth am lanhawyr papur wal. Gellir golchi papur wal golchadwy fel wal arferol, ond gofalwch na fyddwch yn gwlychu’r papur yn ormodol. Gweithiwch o’r gwaelod i’r top, er mwyn atal llinellau rhag ymddangos ar y papur.