Gwybodaeth am Ddiogelwch Rhag Tân – Dysgu plant i fod yn ddiogel gyda thân
Dysgu plant i fod yn ddiogel gyda thân
Y ffordd orau i ddysgu plant yw trwy esiampl. Gadewch i’ch plant eich gweld chi’n bod yn synhwyrol ac yn ofalus wrth goginio, a chyda chanhwyllau, sigaréts a risgiau tân posib eraill. Hefyd, dylech chi:
- Annog eich plant i ddweud wrthych os wnânt ddod o hyd i fatsis neu danwyr sigaréts.
- Annog plant h?n i fod yn gyfrifol, trwy adael iddynt gyfranogi mewn gweithgareddau diogel sy’n ymwneud â thân (er enghraifft, cynnau coelcerth neu gannwyll) o dan oruchwyliaeth oedolyn.
- Esbonio wrth bobl ifanc yn eu harddegau’r peryglon sydd ynghlwm ag achosi tân wrth ysmygu. Hyd yn oed os nad ydynt yn ysmygu, maen nhw’n si?r o fynd i bartïon lle mae pobl eraill yn gwneud. Mae canhwyllau’n boblogaidd gyda phobl ifanc hefyd, felly esboniwch sut i’w defnyddio’n ddiogel.