www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Gwybodaeth am Ddiogelwch Rhag Tân – Dysgu plant beth i’w wneud os oes tân
Dysgu plant beth i’w wneud os oes tân

  • Os welwch chi fwg neu fflamau, seiniwch y rhybudd a dywedwch wrth oedolyn yn syth.


  • Ewch allan o’r adeilad cyn gynted ag sy’n bosib. Ewch i d? cymydog a dywedwch wrthynt am ffonio 999, a gofyn am y Gwasanaeth Tân ac Achub.


  • Os oes mwg, ymlusgwch ar hyd y llawr oherwydd dyna le mae’r aer lanaf.


  • Peidiwch fyth â chuddio mewn cwpwrdd neu o dan y gwely. Mae angen i chi ddweud wrth rywun fod yna dân ac mae angen i chi fynd allan o’r adeilad.


  • Os yw eich llwybr dianc wedi’i flocio, ewch i mewn i ystafell sydd â ffenest. Rhowch flancedi a thywelion ar waelod y drws i atal mwg rhag dod i mewn. Os oes ffôn yn yr ystafell ffoniwch 999. Os nad oes ffôn yn yr ystafell, agorwch y ffenest a gweiddwch am help.


  • Peidiwch â mynd nôl i mewn i’r adeilad, dim hyd yn oed i fofyn teganau neu anifeiliaid anwes. Gall y diffoddwyr tân chwilio’r t? amdanynt yn gyflymach ac mewn modd mwy diogel na chi.



© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service