Gwybodaeth am Ddiogelwch Rhag Tân – Plant sydd wedi eu swyno gan dân
Rheolau Diogelwch Rhag Tân i Blant
- Gallwch chi ddim chwarae â thân yn ddiogel o gwbl – gall fynd allan o reolaeth yn gyflym iawn.
- Peidiwch fyth â chwarae gyda matsis neu danwyr sigaréts. Os welwch chi fatsis neu danwyr sigaréts o gwmpas y lle, dywedwch wrth oedolyn.
- Peidiwch fyth â chwarae gyda chanhwyllau sydd ynghyn.
- Peidiwch â chwarae yn agos i dân neu wresogydd, na gadael eich teganau ger y tân neu wresogydd.
- Peidiwch â thynnu ceblau trydan na chwarae gydag offer trydanol neu socedi.
- Peidiwch fyth â throi’r popty na’r pentan ymlaen.
- Peidiwch â chyffwrdd ag unrhyw sosbenni sydd ar y pentan.
- Peidiwch â gosod unrhyw beth ar ben gwresogyddion, lampau neu oleuadau arall.
- Os welwch chi dân, dywedwch wrth oedolyn yn syth a pheidiwch â cheisio’i ddiffodd.