www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Gwybodaeth am Ddiogelwch Rhag Tân – Cynllunio eich Modd o Ddianc
Gallai agwedd "bydd hyn byth yn digwydd i fi" gostio i chi eich bywyd. Meddyliwch beth fyddech chi’n ei wneud petai tân yn amlygu yn eich cartref - sut fyddech chi’n dianc petai’r brif fynedfa wedi’i blocio? Ydi pawb yn gwybod lle cedwir yr allweddi? Gallai nifer fach o gamau syml sicrhau na fyddwch chi’n ddioddefwr arall.

Cynlluniwch eich modd o ddianc gyda’ch gilydd

  • Trafodwch gyda phawb sut fyddech chi’n dianc petai tân yn amlygu. Wrth baratoi eich cynllun, cofiwch roi ystyriaeth i bawb yn eich cartref, yn enwedig plant a phobl h?n neu anabl.


  • Siaradwch trwy eich cynllun dianc, ac atgoffwch bawb yn rheolaidd o beth i’w wneud – a beth i beidio â gwneud – os oes tân.


  • Rhowch atgof o beth i’w wneud yn rhywle sy’n hawdd ei weld (er enghraifft, ar ddrws yr oergell neu ar hysbysfwrdd yn y gegin).



Dewiswch lwybr dianc

  • Y llwybr dianc gorau yw eich ffordd arferol i mewn ac allan o’ch cartref. Meddyliwch am unrhyw anawsterau y gallech chi neu rywun arall yn eich cartref gael i ddianc.


  • Dewiswch ail lwybr dianc hefyd, rhag ofn bod y llwybr cyntaf wedi’i flocio. Cadwch bob llwybr dianc yn glir.


  • Os oes plant neu bobl h?n neu anabl yn eich cartref, cynlluniwch sut fyddwch yn eu cael nhw allan, a’r drefn orau i bawb ohonoch i ddianc.



Creu ystafell ddiogel

  • Os na fedrwch ddianc, bydd angen i chi ddod o hyd i ystafell lle gallwch aros i’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae hyn yn hynod o bwysig os ydych yn cael anhawster symud o gwmpas, neu wrth ddefnyddio’r grisiau.


  • Os yn bosib, dylai eich ystafell ddiogel gynnwys ffenest sy’n agor a ffôn.



Ble mae’r allweddi’n cael eu cadw ?

Penderfynwch ble dylid cadw’r allweddi’r drysau a’r ffenestri, a chadwch nhw yno bob amser. Dylai pawb yn y t? wybod ble mae’r allweddi’n cael eu cadw.

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service