www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Gwybodaeth am Ddiogelwch Rhag Tân – Beth i’w wneud os oes tân
Os oes tân yn amlygu yn eich cartref, mae’n debygol mai ychydig iawn o amser fydd gennych i’ch arwain chi a’ch teulu i ddiogelwch. Cofiwch, os oes tân – ewch allan, arhoswch allan a deialwch 999.

Seiniwch y rhybudd

Os fydd y larwm mwg yn canu tra eich bod yn cysgu, gweiddwch i ddihuno pawb, galwch bawb ynghyd, dilynwch eich cynllun dianc ac ewch allan o’r adeilad.

  • Peidiwch ag aros i archwilio’r tân, nac i gasglu pethau gwerthfawr ac anifeiliaid anwes.


  • Defnyddiwch eich cynllun dianc i gael pawb allan ac i gwrdd yn y man a drefnwyd.


  • Caewch unrhyw ddrysau sydd ar agor, ac agorwch y drysau sydd angen i chi fynd drwyddynt yn unig (bydd hyn yn helpu i atal y tân rhag lledu mor gyflym).


  • Gwiriwch y drysau gyda chefn eich llaw. Os yw’r drws yn gynnes, peidiwch â’i agor – mae’r tân ar yr ochr arall.


  • Os oes llawer o fwg, ymlusgwch ar hyd y llawr gan mai dyma le fydd yr aer lanaf.


  • Unwaith fyddwch chi wedi cael pawb allan o’r adeilad, defnyddiwch ffôn symudol, ffôn eich cymydog, neu flwch ffôn i ffonio 999. Rhowch eich enw a’ch cyfeiriad i’r gweithredydd brys.


  • Peidiwch â dychwelyd i’r adeilad i fofyn unrhyw beth. Os oes rhywun tu mewn o hyd, dywedwch wrth y Gwasanaeth Tân ac Achub yn syth wedi iddynt gyrraedd - byddan nhw’n medru dod o hyd i’r person yng nghynt ac mewn modd mwy diogel na chi.


  • Ffeindiwch rhywle diogel i aros gerllaw’r adeilad, a rhowch gymaint o wybodaeth ag sy’n bosib i’r Gwasanaeth Tân ac Achub am yr adeilad.



Sut i wneud galwad 999

Gellir galw 999 am ddim. Peidiwch â galw rhif eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol – gallai gymryd mwy o amser i rywun i ateb eich galwad. Pa fwyaf o wybodaeth sydd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub, y cyflymaf gall y diffoddwyr tân eich cyrraedd a gwneud eu gwaith.


Siaradwch yn araf ac yn glir

  • Rhowch gyfeiriad llawn eich cartref, yn cynnwys y dref.


  • Dywedwch beth sydd ar dân (er enghraifft, t? dau lawr neu fflat mewn bloc uchel).


  • Dywedwch os oes rhywun yn gaeth yn yr adeilad ac, os felly, ym mha ystafell maen nhw.



© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service