Gwybodaeth am Ddiogelwch Rhag Tân – Dianc o D?
Os oes tân yn amlygu, mae’n bosib na fydd dianc o’ch t? mor syml ag yr ydych yn meddwl. Mae llwybrau dianc yn medru cael eu blocio ac mae’n bosib bydd cyfyngiad ar eich gallu i gysylltu â’r gwasanaethau brys.
Dianc allan o ffenest
Os ydych ar y llawr gwaelod neu’r llawr cyntaf, mae’n bosib y gallwch ddianc allan o ffenest.
Os oes yn rhaid i chi dorri ffenest, gorchuddiwch y gwydr miniog gyda thywelion neu ddillad gwely trwchus.
- Taflwch ddillad gwely trwchus allan o’r ffenest i glustogi eich cwymp.
- Peidiwch â neidio allan o’r ffenest – ceisiwch ostwng eich hun i hyd braich ac yna disgynnwch i’r llawr.
- Os oes gennych blant, pobl oedrannus neu anabl gyda chi, penderfynwch ym mha drefn fyddwch chi’n dianc, fel y gallwch eu helpu i lawr.
Os yw eich llwybr dianc wedi’i flocio
- Ewch â phawb i mewn i un ystafell, un gyda ffenest sy’n agor ac sy’n cynnwys ffôn fyddai orau. Caewch y drws ac arhoswch i gael eich achub.
- Rhowch ddillad gwely neu dywelion ar hyd gwaelod y drws i selio’r bwlch ac i atal mwg a mygdarth rhag dod i mewn i’r ystafell.
- Agorwch y ffenest ac arhoswch gerllaw i gael aer ffres, ac i alluogi i’r diffoddwyr tân eich gweld.
- Os oes gennych ffôn, galwch y Gwasanaeth Tân ac Achub. Os nad oes ffôn gyda chi, gweiddwch am help fel bod rhywun arall yn gallu ffonio ar eich rhan.
Beth i’w wneud os yw eich dillad ar dân
- Peidiwch â rhedeg o gwmpas – byddwch yn gwneud y fflamau’n waeth ac yn gwneud iddynt losgi yng nghynt.
- Gorweddwch i lawr a rholiwch o gwmpas. Mae hyn yn llethu’r fflamau ac mae’n ei gwneud hi’n anoddach i’r tân i ledu.
- Llethwch y fflamau gyda deunydd trwm, fel cot, blanced neu flanced dân.