www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Gwybodaeth Am Ddiogelwch Rhag Tân – Dianc o Adeilad Uchel
Adeiledir fflatiau uchel i fod yn ddiogel rhag tân, ac ni fydd y mwyafrif o danau’n lledu ymhellach nag ystafell neu ddwy. Bydd y waliau, y nenfydau a’r drysau’n dal y fflamau a’r mwg yn ôl, felly os oes tân mewn rhan arall o’r adeilad, fel arfer byddwch chi fwyaf diogel yn eich fflat, oni bai fod y gwres neu’r mwg yn effeithio arnoch.

Paratoi eich Cynllun Dianc

Bydd cymryd ychydig o amser i baratoi cynllun dianc yn rhoi’r hyder i chi wybod yn union beth i’w wneud os oes tân, a bydd yn rhoi tawelwch meddwl i chi. Os ydych yn byw mewn fflat sydd yn uwch na’r llawr cyntaf, bydd mwyafrif eich gwaith cynllunio diogelwch yr un fath â chartrefi ar y llawr gwaelod. Fodd bynnag, mae yna rhai gwahaniaethau pwysig.

Dilynwch y cyngor ar ddiogelwch a roddir yn adrannau Atal ac Offer Diogelwch Rhag Tân y wefan hon, a hefyd y cyngor a roddwyd eisoes yn yr adran ‘Dianc’ hon. Os ydych yn byw mewn fflat mewn adeilad uchel, fe ddylech chi gymryd y cyngor canlynol:

  • Eisteddwch i lawr gyda phawb sy’n byw yn eich fflat, a sgwrsiwch am sut fyddech chi’n ymateb petai tân yn amlygu. Sicrhewch fod pawb yn gwybod lle mae’r larwm tân.


  • Dewiswch lwybr dianc. Y ffordd rwyddaf allan ddylai hwn fod. Meddyliwch am sut i fynd allan o’ch fflat, ond meddyliwch hefyd am sut fyddwch yn gadael eich llawr a mynd i rywle diogel tu allan i’r adeilad. Hefyd, penderfynwch ar ail lwybr dianc, os oes un ar gael (ond nid balconi).


  • Sicrhewch eich bod yn cadw’r llwybr dianc yn rhydd o rwystrau. Sicrhewch nad oes bocsys, sbwriel nac unrhyw beth a allai fynd ar dân yn y coridorau ac ar y grisiau.


  • Os yw eich adeilad yn cynnwys drysau tân, sicrhewch eu bod ar gau bob amser, ac nad ydynt yn cael eu lletemu ar agor. (Fe’u dyluniwyd i atal mwg a thân rhag lledu).


  • Sicrhewch nad yw’r drysau i’r grisiau a’r allanfeydd ar glo. Gwiriwch yn rheolaidd eich bod yn medru agor y drysau yma o’r ddwy ochr.


  • Wrth gynllunio eich llwybr dianc, cadwch mewn cof na ddylech chi fyth ddefnyddio’r lifft. Mae tân yn medru torri’r cyflenwad trydan i’r lifft, gan eich gadael chi’n gaeth.


  • Dewiswch ystafell ddiogel. Os na fedrwch ddianc bydd angen i chi ddod o hyd i un ystafell lle gallwch aros i gael eich achub, un gyda ffenestr sy’n agor ac sy’n cynnwys ffôn fyddai orau.


  • Sicrhewch fod pawb yn gwybod ble mae’r grisiau. Mae’n hawdd drysu pan eich bod yn y tywyllwch, cyfrwch faint o ddrysau fydd angen i chi fynd drwyddynt neu heibio iddynt.



Beth i’w wneud os oes tân

  • Rhybuddiwch bawb yn eich fflat. Peidiwch ag aros i gasglu pethau gwerthfawr nac i archwilio’r tân.


  • Cyn agor drysau, gwiriwch nhw gyda chefn eich llaw. Os ydynt yn gynnes, peidiwch â’u hagor - mae’r tân ar yr ochr arall.


  • Rhybuddiwch y fflatiau gerllaw trwy guro ar y drysau ar eich ffordd allan. Seiniwch y larwm tân, os oes un yn bresennol.


  • Peidiwch â defnyddio’r lifft.


  • Os oes llawer o fwg, ymlusgwch ar hyd y llawr lle mae’r aer lanaf.


  • Unwaith i chi gyrraedd allan yn ddiogel, defnyddiwch ffôn symudol neu flwch ffôn i ffonio 999. Rhowch eich enw a’ch cyfeiriad i’r gweithredydd brys, yn cynnwys rhif eich fflat. Dywedwch wrthynt ar ba lawr mae’r tân, os ydych yn gwybod.


  • Os yw’r tân yn blocio’ch allanfa, neu os yw’r tân neu’r mwg yn blocio’r grisiau yn eich bloc o fflatiau, peidiwch â chynhyrfu ac ewch yn ôl i mewn i’ch fflat, ac arhoswch i’r Gwasanaeth Tân ac Achub i gyrraedd.



Os yw eich llwybr dianc wedi’i flocio

Os yw’r tân yn eich fflat

  • Ewch â phawb i mewn i’r ystafell ddiogel a ddewiswyd gennych.


  • Rhowch glustogau, dillad gwely ac ati., ar waelod y drws i atal mwg rhag dod i mewn.


  • Ffoniwch 999, gan roi eich cyfeiriad a rhif eich fflat.


  • Agorwch y ffenestr. Os teimlwch eich bod mewn perygl enbyd, chwifiwch ddillad gwely allan o’r ffenest fel bod y diffoddwyr tân yn medru eich gweld.



Os yw’r tân tu allan i’ch fflat

  • Seliwch eich drws ffrynt gyda thâp, os fedrwch chi, yn ogystal â chlustogau a dillad gwely, i atal y mwg rhag dod i mewn.


  • Caewch unrhyw awyryddion.


  • Ffoniwch 999, gan roi eich cyfeiriad a rhif eich fflat.



© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service