www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Pan fo Tân yn Dechrau
Seiniwch rybudd

  • Os fydd eich larwm mwg yn canu tra eich bod yn cysgu, peidiwch ymchwilio i weld os oes tân. Gweiddwch i ddihuno pawb, casglwch bawb ynghyd, dilynwch eich cynllun ac ewch allan.

  • Gwiriwch y drysau gyda chefn eich llaw – os ydynt yn boeth, peidiwch â’u hagor – mae tân ar yr ochr arall.

  • Os oes llawer o fwg, ymlusgwch ar y llawr gyda’ch trwyn ger y llawr lle bydd yr aer yn gliriach.



Dianc drwy’r ffenest

  • Os ydych ar y llawr gwaelod neu’r llawr cyntaf efallai y byddwch yn medru dianc drwy’r ffenest. Os oes yn rhaid i chi dorri ffenest, gorchuddiwch y gwydr tolciog gyda thywelion neu ddillad gwely trwchus.

  • Taflwch fwy o ddillad gwely allan drwy’r ffenest i glustogi eich cwymp. Peidiwch â neidio allan o’r ffenest – gostyngwch i hyd braich a disgynnwch i’r ddaear.

  • Os oes gyda chi blant neu bobl oedrannus neu anabl gyda chi, cynlluniwch y drefn fyddwch yn dianc ynddo fel y gallwch eu helpu nhw.



Peidiwch â dychwelyd i’ch cartref

  • Ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub o ffôn symudol, ffôn cymydog neu flwch ffôn. Rhowch gyfeiriad y tân.

  • Peidiwch ag aros neu ddychwelyd am unrhywbeth.



Beth i wneud os yw eich llwybr dianc wedi blocio

  • Casglwch bawb i un ystafell a chaewch y drws. Mae mwg a mygdarth yn medru lladd pobl yn gyflym, felly rhowch ddillad gwely neu dywelion ar hyd gwaelod y drws i selio’r bwlch.

  • Agorwch y ffenest ac arhoswch gerllaw i gael awyr iach ac i adael i’r diffoddwyr tân eich gweld.

  • Ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub neu gweiddwch am help fel bod rhywun yn medru ffonio ar eich rhan.



Cofiwch nid yw meddu ar gynllun dianc o dân yn ymwneud yn unig â dianc, ond mae’n manylu ynglyn ag atal tanau rhag dechrau yn y lle cyntaf. Cymerwch eich amser i lunio cynllun dianc o dân heddiw, gallai achub eich bywyd.

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service