www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Gwybodaeth am Ddiogelwch Rhag Tân - Coginio, Trydan, Ysmygu a Chanhwyllau
Mae’r mwyafrif o danau yn y cartref yn cychwyn yn y gegin, o ganlyniad i esgeulustod pobl sy’n defnyddio offer coginio neu ddiffyg canolbwyntio wrth goginio. Mae bron i 20 o bobl fesul diwrnod yn cael eu lladd neu eu hanafu mewn tanau yn y gegin.

Coginio

  • Wrth goginio, byddwch yn ofalus os ydych yn gwisgo dillad llac, oherwydd gallant fynd ar dân yn hawdd. Cadwch wifrau trydan, llieiniau sychu llestri a chlytiau’n ddigon pell oddi wrth y popty a’r pentan.


  • Peidiwch fyth â gadael plant ar eu pennau hunain yn y gegin. Cadwch fatsis, tanwyr sigaréts a dolenni sosbenni allan o gyrraedd plant, a rhowch glicied diogelwch ar ddrws y popty.


  • Cadwch y popty, y pentan, y tostiwr a’r gril yn lân – mae braster, briwsion neu saim wedi cronni yn medru mynd ar dân yn rhwydd iawn.


  • Peidiwch â defnyddio matsis na thanwyr sigaréts i gynnau poptai nwy - mae dyfeisiau tanio, a ellid eu prynu mewn siopau nwyddau metel, yn fwy diogel.


  • Peidiwch â gadael sosbenni ar y pentan pan nad ydych o gwmpas. Tynnwch nhw oddi ar y gwres os oes yn rhaid i chi adael y gegin.


  • Trowch ddolenni’r sosbenni fel nad ydynt yn wynebu allan ar y pentan, na dros fflam noeth ychwaith.


  • Peidiwch â rhoi unrhyw beth metel neu fetalaidd yn eich microdon.


  • Pan fyddwch wedi gorffen coginio, sicrhewch eich bod yn diffodd y popty a’r pentan.



Gofalu am bethau trydanol

  • Cadwch wifrau trydan ac offer yn ddiogel pell oddi wrth dd'r.


  • Diffoddwch unrhyw offer trydan pan nad ydynt mewn defnydd a gwasanaethwch nhw’n rheolaidd.


  • Edrychwch i weld os yw’r tostiwr yn lân, a gwagiwch y briwsion yn rheolaidd. Sicrhewch nad yw gerllaw’r llenni, bleindiau na phapur cegin.


  • Peidiwch â gorlwytho socedi trydan. Dylai fod gennych un plwg i bob soced. Os ydych chi angen mwy o blygiau na sydd gennych o socedi, defnyddiwch addasydd ffiws math bar, a chadwch gyfanswm amp pob plwg ar yr addasydd i 13 amp neu lai. Hefyd, cofiwch fod angen soced iddyn nhw eu hunain bob amser ar offer amp uwch, megis peiriannau golchi.



Coginio bwyd mewn ffrïwr saim dwfn

  • Os ydych yn coginio bwyd mewn ffrïwr saim dwfn yn rheolaidd, ystyriwch brynu ffrïwr saim dwfn trydanol. Maent yn cynnwys thermostat sy’n eu hatal rhag gorgynhesu ac maent yn fwy diogel i’w defnyddio.


  • Sychwch y bwyd cyn ei osod yn yr olew poeth, i atal yr olew rhag tasgu ar eich traws a’ch llosgi.


  • Os nad oes gennych ffrïwr saim dwfn trydanol a’ch bod yn defnyddio sosban arferol, peidiwch fyth â’i llenwi gyda mwy nag un rhan o dair o olew.


  • Os yw’r olew’n dechrau mygu, mae’n rhy boeth. Diffoddwch y gwres a gadewch iddi oeri.



Os oes sosban yn mynd ar dân

Peidiwch â chymryd unrhyw risgiau – ceisiwch gael pawb allan o’ch cartref a galwch y Gwasanaeth Tân ac Achub.

  • Peidiwch â symud y sosban a pheidiwch fyth â thaflu d?r drosti.


  • Diffoddwch y gwres o dan y sosban (os yw’n ddiogel i chi wneud hynny) a gadewch iddi oeri’n llwyr.



Trin mân losgiadau

Os yw llosgiad yn fwy na maint stamp, dylech chi geisio cyngor meddygol gan eich meddyg neu galwch am ambiwlans. Os yw’r llosgiad yn llai na maint stamp, gosodwch ef o dan y tap d?r oer nes i’r boen leddfu, ac yna gorchuddiwch y llosgiad gyda deunydd glân, heb fflwff.


© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service