www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Gwybodaeth am Ddiogelwch Rhag Tân – Os oes gennych anghenion ychwanegol
Os ydych chi neu aelod o’ch teulu yn cael trafferth gweld, clywed neu symud o gwmpas y cartref, bydd angen i chi fod yn ofalus iawn wrth ymdrin â risgiau tân. Bydd y sefydliadau canlynol yn medru cynnig cymorth a chyngor i chi.

Cyngor Cyffredinol

Mae’n bosib bydd y canlynol o gymorth wrth ystyried y risgiau tân ychwanegol a wynebir gan y bobl hynny sydd ag anghenion ychwanegol:

  • Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol, a fydd yn medru asesu pa mor ddiogel yw eich cartref, a gallant helpu i osod cyfarpar diogelwch rhag tân megis larymau mwg.


  • Bydd eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth leol, neu eich cangen leol o Age Concern, yn medru eich rhoi mewn cysylltiad â grwpiau gwirfoddol lleol a all fod o gymorth i chi.


  • Yn aml, mae ffrindiau ac aelodau o’r teulu’n medru bod yn ffynhonnell dda o gymorth a chyfarwyddyd.


  • Paratowch gynllun dianc fel eich bod yn gwybod beth i’w wneud os oes tân yn amlygu yn eich cartref (i weld sut mae gwneud hyn, ymwelwch ag adran Dianc y safle hwn).


  • Os ydych yn byw mewn llety cysgodol neu gartref preswyl, gofynnwch i’ch landlord neu eich warden i esbonio’r cynlluniau diogelwch sydd ganddynt ar gyfer yr adeilad, a sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’ch llwybr agosaf i ddiogelwch.



Ble i gael help

Gall y sefydliadau a restrir isod roi cyngor i chi ar ragofalon diogelwch rhag tân o amgylch eich cartref:

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service