www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Gwybodaeth am Ddiogelwch Rhag Tân – Os ydych yn rhentu eich cartref
Dengys yr ystadegau fod fwy o siawns i bobl sy’n byw mewn llety rhent ddioddef tân yn eu cartrefi. Un o’r problemau yw nad yw llety rhent bob amser yn cael eu cynnal a’u cadw’n effeithiol. Os na fedrwch gael eich landlord i wneud eich t?’n ddiogel, gwnewch hyn eich hunan – gallai achub eich bywyd.


Rhwymedigaethau eich Landlord

Nid oes gan landlordiaid gyfrifoldeb cyfreithiol bob amser i osod larymau mwg, felly gosod larwm mwg yn eich cartref yw’r cam symlaf y gallwch ei gymryd i leihau’r risg o gael eich caethiwo mewn tân. Maen nhw’n rhad i’w prynu, yn hawdd i’w gosod a gallwch fynd â’r larwm gyda chi pan fyddwch yn symud cartref.

  • Yn unol â Deddf Tai 1985, mae’n rhaid i landlordiaid sicrhau fod yna ddigon o lwybrau dianc.


  • Gan ddibynnu ar faint yr adeilad, mae’n bosib bod yn rhaid iddynt osod larymau mwg a darparu diffoddiaduron.



Diogelwch Trydan, Nwy a Dodrefn

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i’ch landlord:

  • Sicrhau fod unrhyw offer nwy a ddarperir ganddynt yn cael eu cynnal a’u cadw mewn cyflwr da, a bod plymwr sydd wedi cofrestru gyda Corgi yn cynnal archwiliad diogelwch bob blwyddyn.


  • Cynnal unrhyw osodiadau trydan (gwifrau sefydlog ac ati) ac unrhyw offer trydanol a ddarperir ganddynt (poptai, tegyll ac ati), a sicrhau eu bod yn ddiogel i’w defnyddio.


  • Sicrhau fod unrhyw ddodrefn a chelfi a ddarperir ganddynt yn diwallu’r rheolau gwrthsefyll tân.


Bydd Swyddfa Iechyd yr Amgylchedd eich cyngor yn medru rhoi mwy o fanylion i chi am rwymedigaethau eich landlord, a gall orfodi eich landlord i ddarparu rhagofalon tân digonol.

I gael mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau eich landlord, ymwelwch â gwefan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG).


Cwestiynau i’w gofyn i’ch landlord

Gofynnwch y cwestiynau canlynol i’ch landlord:

  • Oes rhywun wedi edrych ar wifrau trydan yr adeilad yn ddiweddar?


  • Ydi’r socedi, y switshis a’r gosodiadau golau ac ati yn cael eu profi bob blwyddyn?


  • Oes yna raglen cynnal a chadw rheolaidd ar gyfer gwresogyddion ac offer nwy?


  • Ydi’r simneiau a’r ffliwau yn cael eu glanhau a’u gwirio’n rheolaidd?


  • Ydi’r t? wedi’i gofrestru gyda’r awdurdod lleol fel un sy’n lletya mwy nag un teulu (hynny yw, t? mewn amlddeiliadaeth)?


Mae’n bosib na fyddwch yn medru gorfodi eich landlord i gynnal y gwiriadau sy’n angenrheidiol ond, os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â’r ganolfan cyngor ar bopeth leol neu’r Swyddog Iechyd yr Amgylchedd i gael cyngor pellach.


Llety Myfyrwyr

Mae’n bosib bydd rhieni’n dymuno gwirio diogelwch llety myfyrwyr. Os oes gennych bryderon am safon y llety, dylech chi gysylltu â’r brifysgol i gael cyngor.


© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service