www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Gwybodaeth am Ddiogelwch Rhag Tân - 12 o gynghorion i ddiogelu eich cartref
Mae’r rhestr wirio hon yn rhoi cyngor ymarferol a syml, a fydd yn help mawr i chi leihau’r siawns o ddioddef tân yn y cartref. Os oes tân yn amlygu, bydd y cyngor hwn yn help i sicrhau fod pawb yn medru dianc yn gyflym ac yn ddiogel.


  • 1. Gosodwch larymau mwg ar bob lefel yn eich cartref. Cadwch nhw’n rhydd o lwch a phrofwch nhw un waith yr wythnos. Ystyriwch brynu larwm 10 mlynedd, fel arall, newidiwch y batris yn eich larwm bob blwyddyn.


  • 2. Paratowch gynllun gweithredu mewn tân, fel bod pawb yn eich cartref yn gwybod sut i ddianc os oes tân yn amlygu.


  • 3. Cadwch yr allanfeydd o’ch cartref yn glir, fel bod pobl yn medru dianc os oes tân. Sicrhewch fod pawb yn eich cartref yn medru dod o hyd i allweddi’r drysau a’r ffenestri’n ddigon hawdd.


  • 4. Byddwch yn ofalus iawn tra eich bod yn y gegin – mae damweiniau wrth goginio yn cyfrif am dros hanner y nifer o danau yng nghartrefi pobl. Peidiwch fyth â gadael plant bach ar eu pennau hunain yn y gegin.


  • 5. Byddwch yn ofalus iawn pan eich bod yn coginio gydag olew poeth. Ystyriwch brynu ffrïwr saim dwfn o dan reolaeth thermostat (os nad ydych yn berchen ar un eisoes).


  • 6. Peidiwch fyth â chynnau canhwyllau mewn ystafelloedd os nad oes rhywun yn bresennol ynddynt, neu mewn ystafelloedd lle mae plant yn treulio amser ar eu pennau hunain. Sicrhewch fod canhwyllau’n cael eu gosod mewn dalwyr diogel, ar arwynebedd nad sy’n llosgi, a’u bod ddigon pell oddi wrth unrhyw ddeunyddiau a allai losgi.


  • 7. Sicrhewch fod sigaréts yn cael eu diffodd yn llwyr a’u gwaredu’n ofalus, a pheidiwch fyth ag ysmygu yn y gwely.


  • 8. Dewch i’r arfer o gau’r drysau gyda’r nos. Os ydych chi eisiau cadw drws ystafell wely plentyn ar agor, caewch y drysau i’r lolfa a’r gegin. Gallai hyn achub eu bywyd petai tân yn amlygu.


  • 9. Peidiwch â gorlwytho socedi trydan. Cofiwch y rheol un plwg i un soced.


  • 10. Cadwch fatsis a thanwyr sigaréts allan o olwg a chyrraedd plant.


  • 11. Byddwch yn ofalus iawn pan fyddwch wedi blino neu wedi i chi fod yn yfed alcohol.


  • 12. Peidiwch â gadael y teledu ac offer trydanol eraill ar ‘standby’, oherwydd gallai hyn achosi tân. Diffoddwch nhw bob amser, a thynnwch y plwg pan nad ydynt mewn defnydd.



© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service