Fire Safety Education Schemes - Fire Awareness Child Education (FACE)
Addysg Ymwybyddiaeth Tân i Blant
Cynllun arbenigol yw FACE neu Addysg Ymwybyddiaeth Tân i Blant, a anelir at dargedu llosgwyr ifancach h.y. 5-12 mlwydd oed. Yn y mwyafrif o achosion mae’r plant ifanc yma’n arbrofi gyda thân, a gellir cywiro hyn yn hawdd gydag ymweliad syml, i esbonio’r peryglon a’r canlyniadau sy’n gysylltiedig â chwarae â thân.
Gellir ailgyfeirio plant at y rhaglen drwy nifer o sianeli megis drwy’r criwiau tân yn mynychu digwyddiad, rhieni/ gwarcheidwaid yn ffonio’r gwasanaeth tân ac achub yn uniongyrchol, yr adran gwasanaethau cymdeithasol neu’r heddlu.
Mae’r rhaglen yn dilyn cwrs y digwyddiadau, a weithredir o fewn ychydig ddyddiau i dderbyn yr ailgyfeiriad. Bydd personél y Gwasanaeth Tân ac Achub, sydd wedi derbyn yr hyfforddiant priodol, yn ymweld â’r plentyn a’i rieni/warcheidwaid yn eu cartref. Nod hyn yw addysgu pawb sy’n gysylltiedig (nid y plentyn yn unig) am beryglon tân a sut mae atal iddynt i ailadrodd digwyddiadau o losgi. Anogir y rhieni/gwarcheidwaid i drafod y digwyddiad gwreiddiol ac ymweliad dilynol gan y Frigâd Dân wedi hynny. Rhoddir llyfr prosiect i’r plentyn i’w gwblhau yn ogystal, ac anogir rhyngweithiad y rhieni/gwarcheidwaid lle bynnag y bo hynny’n bosib. Mae’n arfer cyffredin i wirfoddolwr FACE i wirio cynnydd y plentyn drwy gyfrwng galwad ffôn wedi’r ymweliad.
Cafodd y rhaglen hon ei mabwysiadu gan lawer o Wasanaethau Tân ac Achub ac mae’n hynod o lwyddiannus. I’r cyfranogwyr hynny sydd wedi derbyn ymweliad FACE, ar gyfartaledd mae’r gyfradd ailadrodd cynnau tanau yn llai na 20%.
Am wybodaeth pellach am gynllun FACE cysylltwch, os gwelwch yn dda, â'r Cydlynydd FACE yn yr Adran Diogelwch Rhag Tân yn y Gymuned, Pencadlys Diogelwch Cymunedol Treforys.