www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Digwyddiadau Diweddar
Mae’r rhan hon yn rhoi cip olwg o rai o’r digwyddiadau sydd wedi amlygu yn ardal Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’n bosib bod gwybodaeth bellach ar gael trwy gysylltu â Swyddog Cysylltiadau’r Wasg a’r Cyfryngau'r Gwasanaeth ar 01267 226866.


Diweddarwyd: 18/11/2008

18 Tachwedd 2008


02:23
Galwyd dau beiriant i dŷn ym Mrynmill, Abertawe. Cyfyngwyd y tŷn i gyflenwad trydan y llawr cyntaf, ac arweiniwyd dau berson i ddiogelwch o'r ail lawr.

00:48
Galwyd tri pheiriant i dân mewn tŷ yng Nghei Newydd ble, yn drist iawn, bu farw un gŵr.

17 Tachwedd 2008


22:02
Galwyd dau beiriant tân o Bowys ac un o Wasanaeth Tân ac Achub Swydd Amwythig i dân yn ystafell wely adeilad, a ddinistriwyd gan dân, yn Nhreberfedd, Y Trallwng. Defnyddiodd y diffoddwyr tân ddau set o offer anadlu ac un jet rîl pibell i daclu'r tân.

14:54
Galwyd dau beiriant tân i wrthdrawiad ar y ffordd rhwng dau gerbyd ym Mount Pleasant, Abertawe. Cafodd un person, a oedd wedi dioddef anafiadau sbinol, ei ryddhau gan ddiffoddwyr tân yn defnyddio offer torri hydrolig, cyn iddo gael ei gludo I'r ysbyty mewn ambiwlans. Roedd yr Heddlu'n bresennol hefyd.

11 Tachwedd 2008


20:16
Galwyd dau beiriant tân i dân mewn cegin ar lawr gwaelod tŷ tri llawr yn Uplands, Abertawe. Defnyddiwyd pedwar set o offer anadlu, jet rîl pibell a ffan wyntyllu i daclu´r tân.

01:30
Galwyd naw pheiriant tân i dân mewn ysgubor yn Nhrefaldwyn, ble´r oedd amryw o adeiladau fferm ar dân. Defnyddiwyd pwmp cyfaint uchel, tair jet rîl pibell a dau fonitor daear i daclu´r tân.

10 Tachwedd 2008


16:18
Mynychodd dau beiriant tân o Sir Benfro adeilad yn yr Eglwys Lwyd, Arberth, ble´r oedd tân yn cynnwys boeler olew. Defnyddiodd y diffoddwyr tân ddau set o offer anadlu a ffan wyntyllu i daclu´r tân, ac i wyntyllu´r adeilad a oedd yn llawn mwg. Cludwyd dau berson i´r ysbyty mewn ambiwlans.


Galwyd dau beiriant tân o Bowys, a dau o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, i wrthdrawiad ar y ffordd ar yr A470 Heol Storey Arms, Aberhonddu.

6 Tachwedd 2008


10:24
Galwyd dau beiriant tân i wrthdrawiad ar y ffordd rhwng fan transit a beic modur yn y Dynfant, Abertawe. Cafodd un gŵr clwyfedig, a fu´n gaeth, ei ryddhau gan ddiffoddwyr tân yn defnyddio offer torri.

09:43
Mynychodd tri pheiriant o Sir Benfro wrthdrawiad ar y ffordd rhwng dau gerbyd modur ar yr A487, ar heol Tyddewi. Fe wnaeth y diffoddwyr tân ryddhau un person gan ddefnyddio offer torri, a chafodd ei gludo i´r ysbyty mewn ambiwlans.

08:59
Galwyd peiriant tân i fynychu digwyddiad ble´r oedd ceffyl wedi cwympo yn Rhydhir, Castell-nedd. Defnyddiodd y diffoddwyr tân fagiau aer, rhaffau a JCB i godi´r ceffyl i ddiogelwch.

02:38
Galwyd dau beiriant tân i adeilad ym Mayals, Abertawe, ble´r oedd tân wedi cychwyn mewn peiriant golchi llestri, ac yna lledu i´r gegin. Defnyddiodd y diffoddwyr tân bedwar set o offer anadlu, un jet rîl pibell a ffan wyntyllu i daclu´r tân. Cludwyd dau breswylydd, a oedd yn dioddef o effeithiau anadlu mwg, i´r ysbyty.

5 Tachwedd 2008



Derbyniwyd oddeutu 225 o alwadau rhwng 1800 awr a chanol nos.

21:27
Mynychodd dau beiriant tân ddigwyddiad ym Monymaen, Abertawe. Roedd petrol wedi cael ei osod gerllaw drws cefn yr adeilad a´i gynnau. Defnyddiodd y diffoddwyr tân jet rîl pibell i daclu´r tân.

21:02
Mynychodd dau beiriant dân yn cynnwys peiriant twll yn y wal un banc ar Heol Rhydychen, Abertawe.

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service