www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Recent Incidents:
18/11/2008 : 02:23:44 - Galwyd dau beiriant i dŷn ym Mrynmill, Abertawe. Cyfyngwyd y tŷn i gyflenwad trydan y llawr cyntaf, ac arweiniwyd dau berson i ddiogelwch o'r ail lawr.      18/11/2008 : 00:48:08 - Galwyd tri pheiriant i dân mewn tŷ yng Nghei Newydd ble, yn drist iawn, bu farw un gŵr.      17/11/2008 : 22:02:04 - Galwyd dau beiriant tân o Bowys ac un o Wasanaeth Tân ac Achub Swydd Amwythig i dân yn ystafell wely adeilad, a ddinistriwyd gan dân, yn Nhreberfedd, Y Trallwng. Defnyddiodd y diffoddwyr tân ddau set o offer anadlu ac un jet rîl pibell i daclu'r tân.      17/11/2008 : 14:54:06 - Galwyd dau beiriant tân i wrthdrawiad ar y ffordd rhwng dau gerbyd ym Mount Pleasant, Abertawe. Cafodd un person, a oedd wedi dioddef anafiadau sbinol, ei ryddhau gan ddiffoddwyr tân yn defnyddio offer torri hydrolig, cyn iddo gael ei gludo I'r ysbyty mewn ambiwlans. Roedd yr Heddlu'n bresennol hefyd.      11/11/2008 : 20:16:00 - Galwyd dau beiriant tân i dân mewn cegin ar lawr gwaelod tŷ tri llawr yn Uplands, Abertawe. Defnyddiwyd pedwar set o offer anadlu, jet rîl pibell a ffan wyntyllu i daclu´r tân.      11/11/2008 : 01:30:00 - Galwyd naw pheiriant tân i dân mewn ysgubor yn Nhrefaldwyn, ble´r oedd amryw o adeiladau fferm ar dân. Defnyddiwyd pwmp cyfaint uchel, tair jet rîl pibell a dau fonitor daear i daclu´r tân.     
Cysylltiadau â’r wasg a’r cyfryngau

Croeso i’r wefan cysylltiadau â’r wasg a’r cyfryngau. Ar y tudalennau yma gwelwch ddolenni i’r datganiadau i’r wasg diweddaraf a gyhoeddwyd gennym, ynghyd â gwybodaeth am ddigwyddiadau a fynychwyd yn ddiweddar, a manylion cyswllt Swyddfa’r Wasg, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Datganiadau'r Wasg
18/11/2008
Rhybudd y Prif Swyddogion Tân Wedi i Bedwar Person Farw mewn Pum Diwrnod Yng Nghymru
Mae Prif Swyddogion Tân y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru'n cyhoeddi rhybudd difrifol ir cyhoedd, wedi i bedwar person farw mewn tanau yn y cartref ar draws Cymru o fewn pum diwrnod yn unig.
mwy »
18/11/2008
Larwm Mwg y Gwasanaeth Tân yn Arbed Adeilad
Mae larwm mwg, a osodwyd mewn fflat gan staff diogelwch yn y gymuned y gwasanaeth tân, wedi'i atal rhag difrod difrifol gan dân. Rhybuddiwyd y cymdogion bod tn yn y fflat ar Heol Emrys ychydig wedi 19:30awr ar Nos Sul. Mynychodd dau beiriant tân o Dreforys, a diffoddwyd y tân gan bedwar diffoddwr tn yn gwisgo offer anadlu.
mwy »
18/11/2008
Dyn Yn Marw Mewn Tŵn Yn Ei Gartref
Mae gŵr oedrannus wedi marw mewn tân yn ei gartref yn Heol Lewis, Cei Newydd, yn ystod oriau mân y bore Ddydd Mawrth (18/11/08). Mynychodd diffoddwyr tân o Gei Newydd, Aberaeron a Llandysul y digwyddiad am 00:48 fore heddiw.
mwy »
14/11/2008
Tanau mewn Ysguboriau ym Mhowys
Yn dilyn nifer o danau ym Mhowys yn ddiweddar, mae Heddlu Dyfed Powys, y Gwasanaeth Tân a´r Gwasanaeth Gwyddoniaeth Fforensig wedi adolygu´r pedwar tân. Ar hyn o bryd, maent yn eu trin fel achosion o losgi bwriadol oherwydd nad oes esboniad iddynt, ac mae pob un ohonynt yn weddol agos i´w gilydd yn ddaearyddol. Mae ymchwiliad troseddol yn cael ei gynnal, yn cynnwys swyddogion CID o´r Trallwng a´r Drenewydd.
mwy »
Rhifyn Diweddaraf Calon Tân
Cyflwyniad
Calon Tân yw cylchgrawn deufisol y Gwasanaeth, a gyhoeddir yn fewnol gan yr adran cyfathrebu corfforaethol a chynnal aelodau. I gael mwy o wybodaeth am y cyhoeddiad cysylltwch â’r golygydd, y Swyddog CC a Chyfathrebu, ar 01267 226 866.

Medi / Hydref



Cylchgrawn Calon Tân:
Fersiwn Cymraeg


Lawrlwytho »
(PDF, 608kb)
Gorffennaf / Awst



Cylchgrawn Calon Tân:
Fersiwn Cymraeg


Lawrlwytho »
(PDF, 1.24mb)
Pytiau o Newyddion
Sut i danysgrifio i’r pwt hwn

Gallwch danysgrifio i’r pwt RSS hwn mewn sawl ffordd, yn cynnwys y canlynol:

  • Llusgwch y botwm RSS oren i mewn i’ch Darllenydd Newyddion.
  • Llusgwch URL y pwt RSS i mewn i’ch Darllenydd Newyddion.
  • Torrwch a gludwch URL y pwt RSS i mewn i’ch Darllenydd Newyddion.

Mwy o wybodaeth »
Cysylltiadau yn y Wasg a’r Cyfryngau
Swyddog y Wasg a CC
Ffôn: 0370 6060699
e-bost: r.griffiths@mawwfire.gov.uk


Cynorthwy-ydd Cyfathrebu
Ffôn: 0370 6060699
e-bost: e.evans@mawwfire.gov.uk

Caiff Swyddfa’r Wasg ei staffio o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Tu allan i oriau swyddfa arferol ac ar benwythnosau neu wyliau cyhoeddus, gofynnir i aelodau o’r wasg i gysylltu â’r Ganolfan Reoli Tân ar 01267 226 899.


Rhestr Bostio Datganiadau i’r Wasg
Mae cyfleu negeseuon diogelwch trwy gyfrwng y wasg a’r cyfryngau yn un o amcanion allweddol y Gwasanaeth. Os hoffech i ni eich diweddaru gyda holl ddatganiadau i’r wasg Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, nodwch eich cyfeiriad e-bost yn y blwch isod a dewiswch “tanysgrifio” o’r ddewislen ddisgynnol ac yna cliciwch EWCH!




(Rhowch eich cyfeiriad e-bost yma, os gwelwch yn dda)
Archif y Wasg
Digwyddiadau Diweddar
Cip olwg ar rai o’r digwyddiadau a amlygodd yn ardal Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ddiweddar.
mwy »

Datganiadau i’r wasg:
Darllenwch ein newyddion diweddaraf. Cliciwch ar y mis perthnasol isod i gael mynediad ar ddatganiadau i’r wasg diweddar. Mae archif llawn ar gael isod hefyd.

Tachwedd | Hydref | Medi

Archif y Wasg »

Chwilio am Ddatganiadau i’r Wasg
Chwilio ein Datganiadau i’r Wasg trwy deipio gair allweddol yn y blwch isod.


(Please enter keywords here)
Digwyddiadau yn y Dyfodol
© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service