www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Rhaglen Addysg Diogelwch Rhag Tân

Rhaglen Addysg Diogelwch Rhag Tân

Mae Adran Diogelwch yn y Gymuned Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi datblygu rhaglen addysg amrywiol i ysgolion, sy’n amrywio o Gyfnodau Allweddol 1 – 4, ac fe’i lluniwyd yn unol â Fframwaith ABCh Cymru. Mae testunau’r rhaglen yn amrywio o ddiogelwch rhag tân, ffug alwadau, llosgi bwriadol a materion ataliol, i wrthdrawiadau ar y ffordd.

Nod ac amcan pennaf y rhaglen yw creu ymwybyddiaeth y cyhoedd, plant a phobl ifanc o beryglon tân yn y cartref a’r gymuned, a darparu gwybodaeth i’w galluogi i atal, darganfod a dianc o dân.






Addysg Gynradd

“Paid â chyffwrdd, Dywed” – mae Tanni yn dysgu i blant CA1

Y cam cyntaf mewn prosiect addysgol newydd, a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yw hwn. Anela’r prosiect at hyrwyddo ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â diogelwch rhag tân ymhlith plant o bob oed, fel rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol.

Anelir ‘Tanni’ at blant iau, rhwng 5 a 7 oed. Gan ddilyn anturiaethau cymeriad cartŵn sy’n seiliedig ar helmed diffoddwr tân, mae Tanni yn archwilio gyda phlant i beryglon tân, y risgiau a allai amlygu yn y cartref, neu yn rhywle arall, a sut allant gadw eu hunain yn ddiogel - gan ddefnyddio’r neges allweddol ‘Paid â Chyffwrdd, Dywed’, i atgyfnerthu’r dysgu. Mae Tanni’n galluogi’r tri Gwasanaeth Tân yng Nghymru i weithio gydag adnodd cyson, sydd ar gael i HOLL ysgolion Cymru, yn Saesneg neu’n Gymraeg. Bydd Llyfryn Gweithgarwch Diogelwch Rhag Tân ar gael i’r plant fynd adref ag ef i’w gwblhau gyda’u rhieni, yn ategu’r gwaith yn yr ystafell ddosbarth.

Cliciwch ar yr hypergyswllt canlynol i weld y llyfryn gweithgarwch: http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/safety/fire/safety/advice/firesafetyeducateks1/?lang=en

Cyfnod Allweddol 2 yw ail gam y prosiect addysgol a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac fe’i lluniwyd yn unol â gofynion Fframwaith ABCh Cymru. Fe’i hanelir at ddisgyblion blwyddyn 5 ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru, ac mae’n trosglwyddo neges ddiogelwch personol, sy’n cynnwys cynlluniau dianc i’r teulu, pwysigrwydd larymau mwg a sut i aros yn ddiogel rhag tân. Darperir Llyfryn Gweithgarwch Diogelwch Rhag Tân ar gyfer y plant, i ategu’r gwaith yn yr ystafell ddosbarth. Caiff negeseuon diogelwch allweddol eu hatgyfnerthu ymhellach pan fod y plant yn ymweld â’r criw hanfodol, digwyddiadau diogelwch neu ffeiriau gwyddoniaeth ym mlwyddyn 6.

Am fwy o wybodaeth am lansio CA2 ymwelwch â safle gwe atal tân Cymru:

http://www.firebrake.org/en/education/aweg.php

http://www.firebrake.org/en/education/game/


Addysg Uwchradd

Anelir Cyfnod Allweddol 3 at flwyddyn 7 ac 8, ac mae’n datblygu theori’r triongl tân. Mae cynlluniau gwersi ymyrraeth ar gael hefyd ar Losgi Bwriadol a Ffug Alwadau.

Lluniwyd gwers Cyfnod Allweddol 4 yn unol â chwricwlwm Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol CBAC, ac mae’n hyrwyddo’r nod o atal tân ac mae’n annog myfyrwyr i ymchwilio i’r amcanion canlynol:

Canfod sut mae drysau tân yn gweithredu; ble maent yn cael eu gosod, pam maent yn cael eu defnyddio a sut maent yn gweithio.
Nodi gwahanol fathau o ddiffoddiaduron ac arwyddion.
Nodi’r camau a gymerir pan fod larwm tân neu larwm mwg yn seinio.
Datgan beth sy’n rhaid ei wneud os oes tân yn amlygu.
Nodi defnydd a gweithrediad systemau ysgeintio awtomatig.


Gweithgareddau Cwricwlaidd Ôl-16

Mae Cyfnod Allweddol 5 yn annog pobl ifanc i ystyried diogelwch rhag tân a diogelwch ar y ffordd, yn ystod y cam trosiannol o Addysg Uwchradd i Addysg Bellach / Prifysgol.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Bethan Gill, Ymgynghorwr Addysg, Pencadlys Diogelwch yn y Gymuned, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Heol Sway, Treforys, SA6 6JA e-bost: b.gill@mawwfire.gov.uk

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service