www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Gweithgareddau Allanol
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi dechrau archwilio'r broblem gynyddol o losgi bwriadol a throseddau sy'n gysylltiedig â thân. O ganlyniad, mae ymchwil wedi dangos mai pobl ifanc, yn anffodus, sydd wrth wraidd y fath broblemau gan amlaf. Fodd bynnag, mae creu perthynas effeithiol rhwng y Gwasanaeth Tân ac Achub a'r bobl ifanc yn profi'n hynod o fuddiol, i'r bobl ifanc sy'n gysylltiedig ac i'r Gwasanaeth Tân ac Achub, trwy dynnu sylw at y peryglon i fywyd ac eiddo mae troseddau sy'n gysylltiedig â thân yn eu peri.

Cwrs ymarferol dwys i bobl ifanc rhwng 13 a 17 oed yw Rhaglen Cynnwys Ieuenctid “Phoenix”, a fwriedir i helpu pobl ifanc i ddeall yr holl beryglon sy'n gysylltiedig â thân, yn arbennig. Mae'n gwrs sy'n gofyn llawer, yn gorfforol a meddyliol, ac mae'n anelu at weithio ar y cyd mewn criwiau o dimau. Ei nod yw datblygu potensial y bobl ifanc, hybu eu hunan hyder a hyrwyddo sgiliau arwain trwy weithgareddau sy'n seiliedig ar y Gwasanaeth Tân ac Achub.

Rhagwelir y bydd y bobl ifanc, gyda'r ymrwymiad a ddangoswyd ac wedi cwblhau llawer o agweddau'r rhaglen, yn gwella eu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth a'u sgiliau cymdeithasol.
© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service