www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Canfyddwch y Risgiau


Systemau Darganfod Tân a Rhybuddios

Mae’n rhaid i chi gael system darganfod tân a rhybuddio addas. Gall hyn amrywio o rybudd a weiddir, i system darganfod a rhybuddio trydanol cynhwysfawr.

Beth bynnag yw’r system sydd gennych, mae’n rhaid ei fod yn medru rhybuddio pobl ym mhob amgylchiad.







Modd o ddiffodd tanau bach

Mae’n bosib bod diffoddiaduron amlbwrpas, gydag oes silff warantedig, yn dderbyniol.

Fel rheol y bawd, dylai fod gennych un diffoddiadur ar gyfer pob 200m2 o ofod llawr, gydag o leiaf un ar bob llawr.





Llwybrau diogel i bobl fedru adael yr adeilad

  • Y sefyllfa ddelfrydol yw pan fod yna lwybrau dianc arall o bob rhan o’r adeilad, er nad yw hyn yn bosib bob amser.
  • Os mai un llwybr yn unig sydd ar gael, mae’n bosib bydd nodweddion cydadferol eraill yn angenrheidiol e.e. gwneud y llwybrau dianc yn rhai sy’n gwrthsefyll tân, neu osod offer darganfod tân awtomatig.
  • Dylid cadw’r grisiau a’r ardal gerllaw’r allanfa yn glir o bethau fflamadwy a rhwystrau.
  • Dylai’r llwybr dianc arwain i’r allanfa derfynol.
  • Os nad yw ardal y grisiau’n gwrthsefyll tân, dylai’r allanfa derfynol fod yn weladwy ac yn hygyrch o waelod y grisiau ar lefel y llawr gwaelod. Yn gyffredinol, nid yw ystafelloedd risg uchel yn agor yn uniongyrchol i risiau sy’n gwrthsefyll tân.
  • Os yw eich asesiad risg o dân yn dangos y byddai’r bobl a fyddai’n defnyddio unrhyw lawr yn anymwybodol fod yna dân, mae’n bosib bydd angen mesurau diogelu rhag tân ychwanegol arnoch, e.e. system darganfod a rhybuddio tân.




Drysau allanfa dân addas

Dylid medru gweithredu drysau allanfa dân ac unrhyw ddrysau ar y llwybrau dianc heb allwedd, a heb unrhyw wybodaeth arbenigol.

Mae’n bosib bydd angen bariau neu badiau pwyso (panig) mewn adeiladau cyhoeddus.



Materion eraill i’w hystyried

  • Digon o oleuadau (efallai bydd yn rhaid i chi ystyried goleuadau argyfwng).
  • Arwyddion diogelwch tân addas ym mhob adeilad, ac eithrio’r lleiaf.
  • Hyfforddiant ar gyfer eich staff neu unrhyw un arall y byddech chi’n disgwyl, yn rhesymol, iddynt i helpu os fyddai tân yn amlygu.
  • System reoli i sicrhau fod y systemau diogelwch rhag tân yn cael eu cynnal a’u cadw.

Mae’n bosib bydd adeiladau bach a syml iawn yn medru bodloni’r holl gamau yma heb anhawster, ond dylech chi fod yn medru dangos eich bod wedi cynnal proses briodol.


© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service