
Newidiadau i adeilad
Yn y mwyafrif o achosion, byddwch yn medru cyflawni newidiadau i’ch adeilad ond, mae’n rhaid i chi gofio mai chi fydd yn gyfrifol am reoli’r risg fyddwch chi’n ei greu, a bydd dal yn rhaid i chi gydymffurfio â’r broses gynllunio a’r Rheoliadau Adeiladu. Bydd angen i chi fwrw golwg dros eich asesiad risg o dân, ac edrych ar sut fydd y newidiadau yn effeithio ar risg yn eich adeilad. Bydd angen i chi asesu a yw eich mesurau rheoli risg yn ddigonol, ac a oes angen i chi fabwysiadu mesurau pellach.
Yn rhai adeiladau risg uwch, er enghraifft, yn yr adeiladau lle gellir dweud fod y risg i fywyd yn uwch na’r arferol, neu ble mae angen trefniadau diogelwch rhag tân hynod o gymhleth, bydd yr awdurdod tân yn medru gweinyddu ‘rhybudd newidiadau’. Mae rhybudd newidiadau’n medru’i gwneud hi’n ofynnol i’r person cyfrifol i hysbysu’r awdurdod tân o unrhyw newidiadau maent yn bwriadu eu cyflawni i’r adeilad, lle byddai’r newidiadau hynny’n cynyddu’r risg yn sylweddol.
Cyngor a Gwybodaeth Bellach
Os ydych chi angen cyngor ymarferol neu wybodaeth, cysylltwch â’ch Gwasanaeth Tân ac Achub, a fydd yn medru eich helpu, o bosib.
Mae canllawiau, sy’n addas ar gyfer eich math chi o adeilad, a gyhoeddwyd gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG), ar gael mewn siopau llyfrau da, a gellir eu lawrlwytho o’r rhyngrwyd trwy ymweld â www.communities.gov.uk
Mae gwybodaeth am y broses o reoli risgiau, a deunyddiau tra fflamadwy neu ffrwydrol, ar gael oddi wrth eich swyddfa CID (HSE) leol, neu ar eu gwefan www.hse.gov.uk, a gellir cael cyngor ar leihau’r risg o losgi bwriadol oddi wrth y Biwro Atal Llosgi Bwriadol trwy ffonio 0207 216 7525.