Hyfforddiant Diogelwch Rhag Tân Masnachol
Mae Uned Hyfforddiant Masnachol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnig amryw o gyrsiau Diogelwch Rhag Tân, a luniwyd i alluogi rheolwyr a phersonau cyfrifol adeiladau a safleoedd i gydymffurfio â gofynion statudol y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân). Dangosir y gyfres o gyrsiau sydd ar gael isod, fodd bynnag, gellir teilwrio cyrsiau i ddiwallu eich anghenion penodol.
Archebu lle
TROSOLWG O’R CYRSIAU
Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Rhag Tân (Hanner Diwrnod)
Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Rhag Tân gyda Diffoddiaduron neu Hyfforddiant Mudo
(Un Diwrnod)
Hyfforddiant Marsial / Warden Tân (Un Diwrnod)
Hyfforddiant Rheoli Asesiadau Risg o Dân (Un Diwrnod)
Aseswr Risg o Dân (Pum Diwrnod)
NODAU
I gynyddu ymwybyddiaeth o’r peryglon y mae tân yn eu peri i bobl, eiddo a pharhad busnes.
I ddarparu staff gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r cymwysterau sy’n ofynnol i ddiwallu eu lefel benodol o gyfrifoldeb o fewn y sefydliad.
ARGAELEDD
Mae cyrsiau ar gael trwy gydol y flwyddyn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu lle ar unrhyw un o’n cyrsiau neu os ydych chi eisiau trafod rhaglen hyfforddi pecyn corfforaethol, wedi’i deilwrio ar gyfer eich cwmni, neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Uned Hyfforddiant Masnachol, os gwelwch yn dda.
Ffôn: 0370 6060699 neu e-bostiwch: commercialtraining@mawwfire.gov.uk
LLEOLIADAU
Gellir trefnu hyfforddiant ar eich safle chi neu yn un o Safleoedd Hyfforddi Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn eich ardal.