Hyfforddiant Diogelwch Rhag Tân Masnachol
Cwrs Aseswr Risg o Dân (pum diwrnod)
Cwrs uwch i bobl sy’n ymwneud â gwaith fel ymarferwyr a rheolwyr diogelwch rhag tân, sy’n cyflawni dyletswyddau tebyg.
Trosolwg o’r cwrs
Lluniwyd y modiwl pum diwrnod hwn i gynorthwyo ‘personau cyfrifol’ ac eraill i ddiwallu eu gofynion cyfreithiol, o ran cynnal asesiadau risg o dân.
Mae’r cwrs yn darparu archwiliad manwl o ddeddfwriaeth diogelwch tân a chanllawiau’n ymwneud ag Asesu’r Risg o Dân (FRA). Mae’n canolbwyntio ar ddyletswyddau’r ‘person cyfrifol’ ac mae’n archwilio’r fethodoleg a ddefnyddir wrth Asesu’r Risg o Dân.
Defnyddir deunydd a thaflenni’r cwrs ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth berthnasol a’i ganllawiau perthynol. Mae cynrychiolwyr yn cadarnhau eu bod yn ‘gymwys i gaffael’ trwy gyfrwng asesiad ar ddiwedd y cwrs.
Nod
I roi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth i gynrychiolwyr i ymgymryd ag Asesiadau Risg o Dân mewn amrywiaeth eang o safleoedd.
Dyddiadau
Cynhelir cyrsiau’n rheolaidd. Cysylltwch â’r Uned Hyfforddiant Masnachol i gael manylion pellach, os gwelwch yn dda.
Hyd y cwrs
Pum diwrnod.
Cost
Cysylltwch â swyddog hyfforddi diogelwch tân masnachol.
Archebu lle ar y cwrs
Ffôn: 0370 60 60 699
e-bost: commercialtraining@mawwfire.gov.uk
Lleoliad
Gellir trefnu i gynnal y cwrs mewn lleoliadau eraill neu ar eich safle chi - yn ôl amodau (gweler y strwythur prisiau i gael mwy o fanylion). Darperir nodiadau hyfforddi a lluniaeth, yn cynnwys cinio.
Amcanion dysgu
Erbyn diwedd yr hyfforddiant hwn dylai’r cynrychiolwyr fod yn medru: - Esbonio’r dyletswyddau statudol a fanylwyd mewn deddfwriaeth diogelwch tân.
- Adnabod a diffinio terminoleg sy’n ymwneud ag egwyddorion FRA.
- Adnabod methodoleg ‘arfer gorau’ a’r canllawiau perthynol.
- Adnabod ac adrodd am beryglon generig a meysydd o ddiffyg cydymffurfio.
- Paratoi Asesiad Risg o Dân yn unol ag arfer gorau.
Rhagofynion
Oherwydd natur ddwys y modiwl hwn, argymhellir bod gan gynrychiolwyr wybodaeth gefndir dda o egwyddorion iechyd a diogelwch cyffredinol.
Pwy ddylai fynychu?
Pobl sydd â chyfrifoldeb am gynnal neu werthuso Asesiadau Risg o Dân mwy cymhleth, neu unrhyw un sy’n dymuno ennill achrediad IFE.
Hefyd, bydd y cwrs yn rhoi mewnwelediad amhrisiadwy i’r rheolwyr hynny sy’n goruchwylio sefydliadau eraill sy’n cynnal FRA’au ar eu rhan.
Rhaglen
- Deddfwriaeth diogelwch tân.
- Egwyddorion allweddol yn ymwneud â diogelwch rhag tân.
- Egwyddorion asesu risg.
- Y cysyniad o risg.
- Asesu risg o dân a methodoleg.
- Ymarfer asesu risg o dân ymarferol.
- Cyfrifoldeb y rheolwyr.
- Offer Diffodd Tân.
- Gorfodaeth.
- Nodweddion cydadfer.
- Rheoli Asesu Risg.
- Rheoli safle.
- Asesiad theori ar ddiwedd y cwrs.