Hyfforddiant Diogelwch Rhag Tân Masnachol
Sut i archebu lle
Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu lle ar unrhyw un o’n cyrsiau, neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â’n Huned Hyfforddiant Masnachol, os gwelwch yn dda.
Ffôn: 0370 6060699 Ext 2263
E-bost: commercialtraining@mawwfire.gov.uk
Mobile: 07920 296 871
Byddwn ni angen gwybod ym mha gwrs y mae gennych ddiddordeb, ble yr hoffech ddilyn y cwrs, a faint o bobl fydd yn mynychu. Rydym yn cynnal cyrsiau hyfforddi ar y rhan fwyaf o ddyddiau’r wythnos, yn ystod oriau gwaith arferol, rhwng 08:30 a 17:30 awr - ond rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ofynion arall, os gwelwch yn dda.
Os fyddwch chi angen cysylltu â’r Uned Hyfforddiant Masnachol ar frys (e.e. eich bod yn methu mynychu cwrs oherwydd afiechyd), defnyddiwch y cyfeiriad e-bost neu’r rhif ffôn symudol a roddwyd uchod, os gwelwch yn dda.
Amodau archebu a thalu
Unwaith y byddwn wedi derbyn ffurflen archebu hyfforddiant wedi’i chwblhau oddi wrth y cwsmer, bydd anfoneb am y cwrs hyfforddi’n cael ei anfon trwy’r post.
Mae’n rhaid talu’r ffi hyfforddi yn llawn o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad a nodwyd ar yr anfoneb. Ni chodir TAW ar ffioedd hyfforddi. Gellir talu trwy gyfrwng Debyd Uniongyrchol neu Siec.
Debyd Uniongyrchol:
- Enw’r banc: Barclays
- Cyfeiriad y banc: 9-10 Clos Mawr, Caerfyrddin. SA31 1PW
- Côd didoli’r banc: 20-18-54
- Rhif y cyfrif banc: 50638064
Rhif cofrestru TAW: 666 6318 07
Sieciau:
Yn daladwy i ‘M&WW Fire & Rescue Service’ ac mae angen bod slip hysbysiad talu yn amgaeëdig.
Cheques are to be sent to:
Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Pencadlys y Gwasanaeth Tân
Heol Llwyn Pisgwydd
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin SA31 1SP
Ble bod taliad yn cael ei wneud yn y modd hwn, nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub CGC yn medru derbyn cyfrifoldeb am sieciau sy’n mynd ar goll yn y post neu sieciau nas derbyniwyd.
Canslo ac Amodau
Mae’n rhaid i’r cwsmer hysbysu Gwasanaeth Tân ac Achub CGC yn ysgrifenedig os yw’n dymuno canslo unrhyw gwrs hyfforddi. - Bydd y ffi hyfforddi’n cael ei ad-dalu’n llawn os bydd y cwsmer yn rhoi rhybudd ysgrifenedig ei fod am ganslo o leiaf 21 diwrnod cyn dechrau’r cwrs hyfforddi.
- Bydd 75% o’r ffi hyfforddi’n cael ei ad-dalu os bydd y cwsmer yn rhoi rhybudd ysgrifenedig ei fod am ganslo rhwng 14 ac 20 diwrnod cyn dechrau’r cwrs hyfforddi.
- Bydd 50% o’r ffi hyfforddi’n cael ei ad-dalu os bydd y cwsmer yn rhoi rhybudd ysgrifenedig ei fod am ganslo rhwng 7 a 13 diwrnod cyn dechrau’r cwrs hyfforddi.
- Ni fydd unrhyw ad-daliad yn cael ei roi os bydd y cwsmer yn canslo llai na 7 diwrnod cyn dechrau’r cwrs hyfforddi.
- Caiff y cwsmer newid enwau’r rhai hynny sy’n mynychu’r hyfforddiant ar unrhyw adeg cyn dechrau unrhyw gwrs hyfforddi.
Dylid anfon hysbysiad eich bod am ganslo ar e-bost i commercialtraining@mawwfire.gov.uk
Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gwneud pob ymdrech i ddarparu ar gyfer ceisiadau gan y cwsmer i ohirio, gostwng niferoedd, newid hyd y cwrs neu’r dyddiadau a gytunwyd, pa bryd bynnag y bod hynny’n bosib, ond fe geidw’r hawl i godi tâl canslo yn seiliedig ar y graddfeydd amser uchod. Mae’n bosib i Wasanaeth Tân ac Achub CGC i newid amser, dyddiad a lleoliad cyrsiau hyfforddi.