Cyfrifoldebau
Ym mis Mai 2004 daeth deddfwriaeth newydd i rym sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i’r daliwr dyletswydd i osod trefniadau mewn lle i reoli’r risgiau a berir gan Ddeunyddiau yn Cynnwys Asbestos (ACM), sy’n bresennol yn yr adeilad maent yn gyfrifol amdano. Ymhlith cyfrifoldebau’r daliwr dyletswydd, o dan Reoliadau Rheoli Asbestos yn y Gwaith 2002, mae’r gofyn i sicrhau fod yr holl wybodaeth sy’n ymwneud â lleoliad a chyflwr unrhyw ACM sydd ar gael, yn cael ei roi i’r Gwasanaethau Brys. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi ymdrin â’r mater hwn trwy ddatblygu’r Cofrestr Asbestos Ar Lein canlynol er mwyn i ddalwyr dyletswydd i roi manylion am ddeunyddiau asbestos ac adeiladau sy’n cynnwys asbestos.
Pwy sy’n gyfrifol?
Mae’r daliwr dyletswydd yn cynnwys unrhyw un sy’n gyfrifol am gynnal a chadw ac atgyweirio rhan o adeilad neu’r adeilad cyfan, neu sydd â rheolaeth dros yr adeilad.
Pa adeiladau a effeithir?
Yr holl adeiladau annomestig, pa bynnag fath o fusnes a gyflawnir ynddynt. Hefyd, mae’n cwmpasu ardaloedd cyffredin lle ceir adeiladau preswyl ar rent, yn cynnwys neuaddau, staerau, siafftau lifft a gofodau llofft.
Ble gallai ddod o hyd i fwy o wybodaeth?
Mae gwybodaeth pellach ar gael ar wefan y Gyfarwyddiaeth Iechyd a Diogelwch ar ffurf y cyfarwyddyd cyhoeddedig canlynol:
A Short Guide to Managing Asbestos in Premises - www.hse.gov.uk