
Adroddiadau Tân
Beth yw Adroddiad Tân?
Mae’n bosib i Swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ymgymryd ag ymchwiliad i natur ac achos tân, yn enwedig lle y bu difrod i eiddo neu os cafodd unigolion eu hanafu.
Mae’r wybodaeth a gesglir yn ystod yr ymchwiliadau yma’n ddefnyddiol i’r Gwasanaeth ac mae’n ein helpu i wella ein gweithrediadau yn y dyfodol. Hefyd, mae’r Llywodraeth yn defnyddio gwybodaeth ystadegol er mwyn adnabod natur a thueddiadau tanau yn y gymdeithas.
Mae’r wybodaeth sydd wedi ei gynnwys mewn adroddiad tân yn cynnwys:
- Amserau – amser cynnau amcanol ac amser cyrraedd personél y Gwasanaeth Tân
- Lleoliad – yr adeilad a tharddle’r tân
- Achos – fel a ystyrir gan Swyddogion ymchwilio’r Gwasanaeth
- Difrod – difrifol, cymedrol neu gyfyngedig i effeithiau mwg
Gwneud Cais am Adroddiad Tân
Mae’n bosib i asiantaethau eraill i wneud cais am gopïau o adroddiadau tân, yn cynnwys cwmn ï au yswiriant a chynrychiolwyr cyfreithiol y rhai hynny a effeithiwyd gan y tân.
Gellir dod o hyd i fanylion pellach am Adroddiadau Tân trwy ysgrifennu at y Prif Swyddog Tân. » Cysylltu â Ni
Gweler ein tudalen Gwasanaethau Arbennig am fanylion am y costau sy’n gysylltiedig â chaffael adroddiad.
Sylwer Os Gweler yn Dda
Mae’n rhaid inni gydymffurfio gydag egwyddorion Diogelu Data ac felly ni ellir datgelu gwybodaeth bersonol i’r cyhoedd. Hefyd, mae achos tybiedig tanau, fel a benderfynwyd gan Swyddogion Ymchwilio y Gwasanaeth, yn seiliedig yn unig ar unrhyw dystiolaeth sy’n weddill wedi’r tân ac felly, rhaid peidio â thybio ei fod yn wirionedd hollol.