Dywedwch eich barn a helpwch i siapio dyfodol eich Gwasanaeth Tân ac Achub
Dywedwch eich barn a helpwch i siapio dyfodol eich Gwasanaeth Tân ac Achub
Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad o safon fyd-eang ac mae ein Cynllun Strategol ar gyfer 2010-2015, yn amlinellu ein penderfyniad i gyflawni rhagoriaeth a chreu cymunedau mwy diogel. Rydym yn gwybod mai’r ffordd orau o gyflawni hyn yw gweithio gydag eraill i leihau risg. Rydym ni hefyd yn deall ein rôl wrth leihau niwed i’r amgylchedd a darparu gwasanaeth cydnerth, effeithiol a fforddiadwy.
Mae ein Cynllun Gweithredu Blynyddol Drafft ar gyfer 2011-2012 yn nodi nifer o feysydd penodol, ble credwn y medrwn gyflawni gwelliannau:
mwy ».
Ymgynghoriad ar Y Cynllun Iaith Gymraeg
Ymgynghoriad ar Gynllun Iaith Diwygiedig Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer 2010-2013.
Paratowyd Cynllun Iaith Gymraeg (diweddariad 2010) Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn unol â thelerau Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, ac yn unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn unol ag Adran 9 o’r Ddeddf.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Mae’r Cynllun hwn yn arddangos sut fydd y Gwasanaeth Tân ac Achub yn adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru trwy gyfrwng ei weithgareddau beunyddiol.
I weld Cynllun Iaith Gymraeg drafft 2010-2013, 'cliciwch yma'.
Mae'r cyfnod ymgynghori wedi cau