www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Mid and West Wales Fire and Rescue Authority
Archwiliad o Gyfrifon 2010/11

Hysbysir drwy hyn, yn unol ag Adrannau 30 a 31 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a Rheolau Cyfrifon ac Archwiliad (Cymru) 2005:-

  1. O'r 2ail o Awst 2011 tan y 31fed o Awst 2011 yn gynwysedig, yn ystod oriau arferol y swyddfa, ar ol gwneud cais i Cyfarwyddwr Adnoddau a Chaffael, Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Pencadlys yr Awdurdod, Heol Llwyn Pisgwydd, Caerfyrddin SA31 1SP, y gall unrhyw un sydd â diddordeb, ddarllen a gwneud copiau o gyfrifon yr Awdurdod uchod am y flwyddyn a ddaeth i ben 31ain Mawrth 2011, ynghyd â'r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau sy'n berthnasol i'r cyfryw gyfrifon.
     
  2. Ar neu ar ol y 1af o Fedi 2011 am 9.00 y bydd Archwilydd Apwyntiedig, Ms V. Stevens, KPMG, Ty Marlboro, Llys Ffitsalan, Heol Ffitsalan,, Caerdydd CF10 3PA, ar gais unrhyw un o etholwyr Llywodraethol Leol yr ardal y mae'r Cyfrifon yn berthnasol iddi, yn rhoi i'r etholydd neu i'w gynrychiolydd gyfle i'w holi am y cyfrifon ym Mhencadlys yr Awdurdod, Heol Llwyn Pisgwydd, Caerfyrddin SA31 1SP.
     
  3. Yn ddarostyngedig i Adran 31 o'r Ddeddf caiff unrhyw un o etholwyr Llywodraeth Leol unrhyw ardal y mae'r cyfrifon hynny'n berthnasol iddi, neu unrhyw gynrychiolydd a fo ganddo, fynychu ger bron yr Archwilydd a chyflwyno gwrthwynebiadau.
     
    1. ynghylch unrhyw fater a gallai'r Archwilydd weithredu yn ei gylch dan Adran 32 o'r Ddeddf, neu
       
    2. ynghylch unrhyw fater arall y gallai'r Archwilydd wneud adroddiad yn ei gylch dan Adran 22 o'r Ddeddf.
       
  4. Ni cheir gwneud unrhyw wrthwynebiad dan (3) uchod gan, nac ar ran, etholwr Llywodraeth Leol oni fo'r Archwilydd Apwyntiedig yn flaenorol wedi derbyn rhybydd ysgrifenedig o'r gwrthwynebiad arfaethedig ac o'r seiliau a bydd iddo.
     
  5. Pan fo etholwr yn anfon rhybydd i Archwilydd Apwyntiedig at ddibenion is-adran (4) uchod bydd yn anfon yr un pryd gopi o'r rhybudd at Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Pencadlys yr Awdurdod, Heol Llwyn Pisgwydd, Caerfyrddin SA31 1SP.


Dyddiedig 12fed o Orffenaf 2011

D. Daycock, LLB (Cymru), Cyfreithiwr,.
Clerc i Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru,
Pencadlys yr Awdurdod,
Heol Llwyn Pisgwydd,
CAERFYRDDIN SA31 1SP





© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service