Cynllun Gweithredu Blynyddol 2010-2011 a Chynllun Gwella 2009-2010
Mae’r Awdurdod wedi cymeradwyo ei Gynllun Gweithredu Blynyddol ar gyfer 2010/2011 a’i Gynllun Gwella ar gyfer 2009/2010 ar y cyd. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu amrywiaeth yr Awdurdod o gynlluniau a chyflawniadau hyd yn hyn, a’r gwelliannau sy’n arfaethedig gan yr Awdurdod yn 2010/2011.
mwy »
Cynlluniau ac Adroddiadau
Adran Gaffael
Cyflwyniad
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn prynu cyflenwadau, gwasanaethau a gwaith sy’n amrywio mewn gwerth, o ychydig bunnoedd i lawer o gannoedd o filoedd, ac mae’n gwario oddeutu £14m fesul blwyddyn ar gyflenwi nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Mae hyn yn darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd masnachol ar gyfer cyflenwyr a chontractwyr o bob math a maint.
Datganolwyd caffaeliad beunyddiol o fewn y sefydliad, ac mae’r rheolwyr cyllideb yn gyfrifol am brynu ar gyfer eu hadrannau eu hunain, yn unol â chynllun dirprwyaeth ariannol Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac yn unol â rheolau sefydlog cytundebau, lle mae’n rhaid i’r rheolwyr cyllideb i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth pwrcasu’r sector cyhoeddus. Hefyd, mae yna adran caffaeliad ganolog sy’n gyfrifol am ddwy swyddogaeth, sef Caffaeliad Corfforaethol a leolir yn y Pencadlys yng Nghaerfyrddin, a Phrynu a Chyflenwi a leolir yn Earlswood, Pentrecaseg.
Mwy o wybodaeth »
Llythyron Archwilio Blynyddol
Mae'r Llythyron Archwilio Blynyddol yn fecanweithiau pwysig lle y gellir sicrhau'r cyhoedd ac eraill y bydd y Gwasanaeth yn cael ei reoli'n effeithiol ac y bydd yn cynnig stiwardiaeth effeithlon dros yr arian cyhoeddus mae'n rheoli.
Cyfarfodydd yr Awdurdod Tân
Adroddiadau Monitro Ystadegau Tân
Gwefannau Perthynol