Mae angen i bob sefydliad i gynllunio ar gyfer y dyfodol, er mwyn canfod y ffordd gorau o gyflawni ei nodau. Nid yw cynllunio busnes yn newydd i Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, sydd bob amser wedi bod yn awyddus i fireinio a rhannu ei nodau strategol.
Yng ngoleuni’r pwysedd parhaus ar y sector cyhoeddus i wella effeithlonrwydd, mae’r broses gynllunio’n gynyddol bwysig fel proses i ganfod sut y gellir cynnal a gwella’r modd y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn hinsawdd gyfyngedig neu gydag adnoddau cyfyngedig.
Mae ein cynlluniau lleihau risg yn amlinellu datganiadau o weledigaeth a chenhadaeth yr Awdurdod Tân, ynghyd â nodau strategol i’r Gwasanaeth, ac i’w swyddogion i ddarparu gwasanaeth effeithlon, effeithiol ac economaidd ar gyfer cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac un sy’n ymatebol i’w anghenion. Yn yr adrannau isod, nodir y nodau a’r arferion cynllunio a fabwysiadwyd gan y sefydliad. Caiff y cynlluniau eu cyhoeddi a gellir eu gweld yn yr Adran Dogfennau ar y wefan hon.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ar sut all y Gwasanaeth wella ei wasanaethau, ffoniwch Bencadlys y Gwasanaeth Tân ar 0370 6060699, a gofynnwch am yr Adran Cynllunio Strategol a Pherfformiad, a fydd yn fwy na bodlon derbyn eich galwadau.