www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Cyfleoedd Swydd
Swyddogion Caffael Gweithredol dan Hyfforddiant

Mae Gwerth Cymru, un o is-adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi sicrhau cyllid gan raglen gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop i sefydlu prosiect cyffrous newydd sy'n darparu rhaglen hyfforddi Cymru gyfan ar gyfer caffael sector cyhoeddus.

Rydym yn cynnig contract hyfforddi tymor penodol o 3 blynedd a hanner a fydd yn cynnwys dilyn rhaglen hyfforddi strwythuredig drwy weithio mewn sefydliadau sector cyhoeddus ar draws Cymru gyfan. Cewch chi gymorth gan uwch aelod o staff a mentor. Byddwch hefyd yn gweithio tuag at ennill y cymhwyster proffesiynol Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (CIPS) gyda'r nod o ennill achrediad 'MCIPS' erbyn diwedd y cyfnod hyfforddi.

Rydym yn chwilio am bobl a allai fod yn hyfforddeion, ond bydd yn rhaid bod gennych sgiliau sylfaenol mewn perthynas â chyfathrebu, gwasanaeth i gwsmeriaid a defnyddio cyfrifiaduron. Bydd yn rhaid ichi allu gweithio ar eich liwt eich hun ac o'ch pen a'ch pastwn eich hun i ddatrys problemau. Rydym yn chwilio am siaradwyr Cymraeg, pobl ddi-Gymraeg, a phobl o bob rhan o Gymru.

£17,000 y flwyddyn fydd y cyflog cychwynnol a allai gynyddu i £20,100 gan ddibynnu ar y cymwysterau y byddwch yn eu hennill. Nod y rhaglen yw'ch datblygu a rhoi'r sylfaen sydd ei hangen arnoch o ddod yn rheolwr caffael cyhoeddus yn y dyfodol.

Mae ffurflenni cais ar gael ar-lein nawr yn: www.cymru.gov.uk/recriwtio a'r dyddiad cau yw 18 Chwefror 2011. Rydym am benodi 12 person drwy broses ymgeisio ffurfiol a fydd yn cynnwys prawf ar-lein a phrofion yn y ganolfan asesu.

Dyma gyfle unigryw i feithrin gyrfa ar gyfer y dyfodol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar ôl edrych ar yr wybodaeth ar-lein, cysylltwch ag Allison Minto (e-bost: allison.minto@wales.gsi.gov.uk, Ffôn: 029 2082 3637) a fydd yn hapus i helpu.

Os hoffech yr hysbysiad hwn ar ffurf arall, anfonwch gais at Allison Minto.





© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service