Cyfleoedd Swydd – Swyddogion Caffael Gweithredol dan Hyfforddiant
Mae Gwerth Cymru, un o is-adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi sicrhau cyllid gan
raglen gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop i sefydlu prosiect cyffrous newydd sy'n
darparu rhaglen hyfforddi Cymru gyfan ar gyfer caffael sector cyhoeddus.
Rydym yn cynnig contract hyfforddi tymor penodol o 3 blynedd a hanner a fydd yn cynnwys
dilyn rhaglen hyfforddi strwythuredig drwy weithio mewn sefydliadau sector cyhoeddus ar
draws Cymru gyfan. Cewch chi gymorth gan uwch aelod o staff a mentor. Byddwch hefyd yn
gweithio tuag at ennill y cymhwyster proffesiynol Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi
(CIPS) gyda'r nod o ennill achrediad 'MCIPS' erbyn diwedd y cyfnod hyfforddi.
Rhagor o wybodaeth »
Adran Caffael
Cyflwyniad
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn prynu cyflenwadau, gwasanaethau a gwaith sy’n amrywio mewn gwerth, o ychydig bunnoedd i lawer o gannoedd o filoedd, ac mae’n gwario oddeutu £14m fesul blwyddyn ar gyflenwi nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Mae hyn yn darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd masnachol ar gyfer cyflenwyr a chontractwyr o bob math a maint.
Datganolwyd caffaeliad beunyddiol o fewn y sefydliad, ac mae’r rheolwyr cyllideb yn gyfrifol am brynu ar gyfer eu hadrannau eu hunain, yn unol â chynllun dirprwyaeth ariannol Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac yn unol â rheolau sefydlog cytundebau, lle mae’n rhaid i’r rheolwyr cyllideb i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth pwrcasu’r sector cyhoeddus. Hefyd, mae yna adran caffaeliad ganolog sy’n gyfrifol am ddwy swyddogaeth, sef Caffaeliad Corfforaethol a leolir yn y Pencadlys yng Nghaerfyrddin, a Phrynu a Chyflenwi a leolir yn Earlswood, Pentrecaseg.
Mae’r swyddogaeth Caffaeliad Corfforaethol yn ymdrin â phob agwedd o Brynu a Chyflenwi, o’u caffael yn y lle cyntaf hyd at eu gwaredu, gan ymgorffori ffactorau economaidd, moesegol ac amgylcheddol. Mae’r swyddogaeth Caffaeliad Corfforaethol yn ymrwymedig i ddatblygiad parhaus a chyflawni Gwerth Gorau i gefnogi amcanion corfforaethol, gan anelu at reoli newid yn yr arena prynu, i ffwrdd oddi wrth y dulliau traddodiadol a darparu atebion arloesol mewn ymateb i anghenion cynyddol ac amrywiol y Gwasanaeth, wrth ddatblygu a gweithredu strategaeth caffaeliad i gyflawni effeithlonrwydd o ran costau ac arbedion. Mae meysydd eraill o gyfrifoldeb yn cynnwys:
- Rheoli rhwydwaith o gyflenwyr, gwneuthurwyr polisïau, partneriaethau a threfniadau cydweithrediadol.
- Sefydlu a datblygu trefniadau a phrosesau ar gyfer prynu.
- Monitro cydymffurfiaeth o ran caffaeliad o fewn y Gwasanaeth.
- Rheoli amrywiol brosiectau o’r cychwyn i’r diwedd.
- Arolygu cytundebau sy’n bwysig yn strategol.
- Darparu rheolwyr cytundeb ar gyfer meysydd penodol o wariant.
Mae’r swyddogaeth Prynu a Chyflenwi’n gyfrifol am drefnu a rheoli ble mae’r eitemau gweithredol sydd eu hangen ar y Gwasanaeth, trwy’r Storfa Ganolog, yn cael eu tarddu, eu prynu, eu storio a’u dosbarthu. Mae’r swyddogaeth yn gweithredu ar sail cyflenwi “mewn pryd”, ac mae’n dosbarthu’n wythnosol ar draws ardal y Gwasanaeth.
Mae’r Gwasanaeth yn ymdrin â chytundebau o wahanol fathau, o bryniadau unigol i gytundebau am gyflenwadau, gwasanaethau neu waith, a fydd yn para am gyfnod penodol cyn gorfod cael ei adnewyddu. Wrth roi cytundebau, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn sicrhau ei fod yn cael y “gwerth gorau am arian” trwy ddewis y cynnig neu’r dyfynbris sy’n cynnig y cyfuniad gorau o gostau oes gyfan, a manteision i ddiwallu gofynion y Gwasanaeth.
Rydym yn gobeithio y bydd yr wybodaeth sy’n gynwysedig yn yr adran hon yn rhoi digon o wybodaeth i gyflenwyr a chontractwyr presennol a dyfodol i’w galluogi i ystyried masnachu gyda ni. Credwn yn gryf mewn gwaith partneriaeth gyda chyflenwyr a chontractwyr o bob math a maint, ac mae’r tîm Caffaeliad Canolog (Lyn Jones a Helen Rees ffôn. 0870 8060699) ar gael bob amser i’ch cynorthwyo gydag unrhyw gyngor neu gyfarwyddyd ychwanegol sydd ei angen.
Strategaeth Caffael » (PDF, 259kb)
Canllaw “Sut i Werthu i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru”
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddarparu’r wybodaeth orau posib am y cyfleoedd sydd ar gael, a’r gweithdrefnau sydd angen eu dilyn i ymateb i dendrau a cheisiadau am ddyfynbrisiau, er mwyn cael gwared ar y rhwystrau sy’n bodoli rhwng cyflenwyr/contractwyr a’r sector cyhoeddus. Bwriad yr arweiniad hwn yw dangos i gyflenwyr a chontractwyr sut i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael. Mae’n ceisio rhoi gwybodaeth a chyfarwyddyd i gyflenwyr a chontractwyr presennol a phosib i wneud cais am gytundebau’r Gwasanaeth. Hefyd, bydd yn esbonio pa ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar ofynion tendro’r Gwasanaeth, ac yn disgrifio’r gweithdrefnau sy’n ofynnol i wneud cais am waith trwy:
- Esbonio’r rheolau caffael sy’n rhaid i’r Gwasanaeth eu dilyn
- Amlinellu trothwyau tendro’r Gwasanaeth
- Manylu am sut yr ydym yn hysbysebu tendrau a cheisiadau am ddyfynbrisiau (RFQ)
- Esbonio sut i wneud cais am waith y Gwasanaeth
Mae’r arweiniad hwn yn rhan o’n hymrwymiad at “Agor Drysau – Y Siarter ar gyfer Caffael sy’n Gyfeillgar i Fusnesau Bach a Chanolig” LLywodraeth Cynulliad Cymru, yr ydym yn rhan ohono.
Lawr Lwytho'r Llyfryn » (PDF, 341kb)
Mynegiannau o Ddiddordeb Gweithredol / Ceisiadau am Ddyfynbrisiau / Tendrau
Canolbarth a gorllewin
Gwefannau Perthynol