www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Cynllunio i Leihau Risg
Cynllunio i Leihau Risg



Ym mis Ebrill 2007, dechreuodd yr Awdurdod weithredu ei Gynllun Lleihau Risg ar gyfer 2007/10. Roedd y ddogfen lefel uchel hon yn amlinellu amcanion allweddol i wella ein gwasanaethau, a chynorthwyo i wneud Canolbarth a Gorllewin Cymru’n fwy diogel. Eisoes, mae’r holl amcanion a oedd yn gynwysedig yn y Cynllun Lleihau Risg ar gyfer 2007-2010 wedi bod yn agored i broses o ymgynghori cyhoeddus ar raddfa fawr, a gynhaliwyd yn 2006-2007 cyn i’r cynllun ymddangos ar ei ffurf derfynol.

Paratôdd yr Awdurdod Gynllun Gweithredu Lleihau Risg drafft ar gyfer 09/10 ac ymgynghorwyd ynghylch dau gynnig, rhwng y 6ed o Fai 2008 a’r 29ain o Orffennaf 2008.

1. Criwiau ymroddedig ar gyfer peiriannau arbennig - The Mae ardal Abertawe yn derbyn peiriannau arbennig newydd, a fydd yn galw am adolygu’r opsiynau criwiau ar gyfer y peiriannau yma a’r rhai eraill.

2. Gorsafoedd criw dydd - Mae’r gorsafoedd yma’n cynnwys diffoddwyr tân llawn amser sydd ar ddyletswydd yn ystod oriau’r dydd. Mae angen i’r oriau ar ddyletswydd i gyd-fynd â’r amserau lle bod y risg ar ei fwyaf. Dadansoddwyd gweithgarwch mewn gorsafoedd criw dydd, er mwyn lleoli’r staff sy’n gweithio yn y gorsafoedd yma yn y modd gorau.

Mae’r Awdurdod wedi ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd ar y cynigion, ac mae adroddiad yn manylu am ganlyniadau’r ymgynghoriad ar gael i’w weld.

Yn ei gyfarfod, a gynhaliwyd ar y 27ain o Hydref 2008, fe wnaeth Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gymeradwyo ei Gynllun Gweithredu Lleihau Risg Terfynol ar gyfer 2009/10. Mae’r cynllun yn adrodd am argymhellion terfynol yr Awdurdod am y ddau faes a ymgynghorwyd yn eu cylch. Hefyd, darperir gwybodaeth yn y cynllun am gyflawniadau’r Awdurdod, a’r symudiad parhaus mewn pwyslais at atal tanau ac argyfyngau wrth gynnal trefniadau ymateb cyflym, effeithlon ac effeithiol.

Ar hyn o bryd, mae’r Awdurdod Tân yn y broses o baratoi cynllun pum mlynedd cyntaf y Gwasanaeth, nad yn unig sy’n adrodd am ein hamcanion i Leihau Risg, ond a fydd yn gweithredu fel Cynllun Corfforaethol hefyd. Bwriad y cynllun yw cryfhau’r strategaethau cynllunio a chyflawni tymor hir, a bydd yn cynnwys y cyfnod rhwng 2010 - 2015.

Bydd blaenoriaethau’r Awdurdod ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn gynwysedig yn y cynllun hwn, a bydd Cynlluniau Gweithredu Blynyddol yn cael eu darparu trwy gydol parhad y ddogfen, er mwyn adrodd am gynnydd o safbwynt y meysydd ffocws ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Cynhelir ymgynghoriad ar y Cynllun Drafft ar gyfer 2010 - 2015 o’r 12fed o Fai 2009 i’r 4ydd o Awst 2009, a bydd yn galluogi staff a chymunedau i roi eu barn am y cynigion sy’n gynwysedig yn y cynllun.




Cynllun Gweithredu Lleihau Risg Terfynol 2009/2010 (PDF, 1.37mb)
Adroddiad yr Ymgynghoriad ar Gynllun Gweithredu Lleihau Risg 2009/2010 (PDF, 1mb)
Cynllun Gweithredu Lleihau Risg Drafft 2009/2010 (PDF, 2.55mb)
Cynllun Gweithredu Lleihau Risg 2008/2009 (PDF, 1.61mb)
Adroddiad yr Ymgynghoriad ar Gynllun Gweithredu Lleihau Risg 2008/2009 (PDF, 242kb)
Cynllun Gweithredu Lleihau Risg Drafft 2008/2009 (PDF, 3.18mb)
Cynllun Lleihau Risg Terfynol 2007/2010 (PDF, 6.1mb)
Adroddiad Ymgynghoriad Lleihau Risg 2007/2010 (PDF, 1.7mb)
Cynllun Lleihau Risg Drafft 2007/2010 (PDF, 5.3mb)
Cefndir Cynllunio i Leihau Risg
Canllawiau Cynllunio i Leihau Risg Llywodraeth Cynulliad Cymru
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru (PDF, 199kb)
Cynlluniau Rheoli Risg Integredig Blaenorol
Cyswllt â'r Tîm Cynllunio i Leihau Risg
Rhestr o Fudd-ddalwyr a ymgynghorwyd yn ystod y broses o ymgynghori


Cynlluniau Busnes 2008- 09


Ardaloedd Rheoli Sirol
Sir Gaerfyrddin (PDF, 47kb)
Ceredigion (PDF, 64kb)
Castell Nedd Port Talbot (PDF, 151kb)
Sir Benfro (PDF, 104kb)
Powys (PDF, 125kb)
Abertawe (PDF, 129kb)
Adrannau
Technoleg Gwybodaeth a chyfathrebu (PDF, 67kb)
Cyfathrebu Corfforaethol a Chynnal Aelodau (PDF, 71kb)

Lleihau Risg yn y Gymuned (PDF, 147kb)

Adnoddau Dynol (PDF, 46kb)
Risg Gorfforaethol (PDF, 43kb)
Rheoli Risg Weithredol (PDF, 212kb)

Ystadau (PDF, 57kb)

Datblygu Pobl (PDF, 227kb)
Cludiant (PDF, 54kb)




© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service