
Lleihau Risg
LLEIHAU RISG
Cynllun Strategol 2010-2015 (PDF, 1.58mb)
Rydym ni eisiau bod ymhlith sefydliadau gorau’r byd, gyda ffocws clir ar leihau risg yn ein cymunedau ac yn ein Gwasanaeth. Mae ein Cynllun Strategol ar gyfer 2010-2015 yn amlinellu ein blaenoriaethau, ein hamcanion a’n gweledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Cynllun Gweithredu Blynyddol 2010-2011 (PDF, 336kb)
Cafodd Cynllun Gweithredu Blynyddol 2010-2011 ei gymeradwyo gan yr Awdurdod Tân yn ei gyfarfod ar y 26ain o Hydref 2009. Mae’r Awdurdod, yn ei Gynllun Gweithredu Blynyddol Drafft 2010-2011, wedi gofyn am sylwadau ar sut y gellir cyflawni gwelliannau yn y meysydd canlynol:-
- Gwella’r ffordd yr ydym yn cyrraedd aelodau’r gymdeithas sy’n agored i niwed
- Rhannu ein cyfleusterau gyda’n cymunedau
- Cynnwys ein cymunedau
- Gwella diogelwch ar y ffordd
- Cyflawni archwiliadau diogelwch rhag tân yn y cartref
- Lleihau’r nifer o danau glaswelltir bwriadol
Dangosodd yr ymatebion i’r ymgynghoriad:-
- Bod cefnogaeth i’n gwaith presennol, mae llawer o’r argymhellion ar gyfer gwelliannau eisoes yn cael eu gweithredu, sy’n cadarnhau fod strategaethau’r Awdurdod yn adlewyrchu’n eang yr hyn mae’r cyhoedd yn ei ddisgwyl oddi wrthym.
- Bod ein budd-ddeiliad yn cymeradwyo ein gwaith cydweithrediadol gyda phartneriaid, a chynigwyd awgrymiadau i ddatblygu cyfleoedd gyda phartneriaid newydd.
- Bod ein budd-ddeiliad eisiau i ni hyrwyddo ein hamrywiaeth eang o wasanaethau a chodi ein proffil yn y gymuned.
Mae manylion llawn yr ymgynghoriad a’i ganlyniadau’n gynwysedig yn yr Adroddiad ar yr Ymgynghoriad ar Gynllun Gweithredu Blynyddol Drafft 2010-2011 (PDF, 336kb)
Bydd canlyniadau’r gwelliannau yma’n cael eu hadrodd bob blwyddyn yn ein Cynlluniau Gweithredu Blynyddol. Byddwn yn rhannu’r wybodaeth yma gyda’n partneriaid, wrth i ni barhau i weithio gydag eraill i greu cymunedau mwy diogel.
Yn ogystal, mae Gwybodaeth am Welliant a Pherfformiad yn gynwysedig yn y Cynllun Gweithredu Blynyddol, er mwyn darparu gwybodaeth am ein holl berfformiad a’n gweithgareddau trefnedig mewn un lleoliad cyfleus.
Ymgynghori yn y Dyfodol
Os hoffech i ni ychwanegu eich manylion cyswllt at ein cronfa ddata ymgynghori, fel eich bod yn cael eich ystyried i gyfranogi mewn arolygon a digwyddiadau ymgynghori yn y dyfodol, cliciwch yma.
Byddwch yn ymwybodol, os gwelwch yn dda, y bydd eich manylion yn cael eu defnyddio gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru er dibenion ymgynghori’n unig, ac fe’u cedwir am hyd at 2 flynedd.
Os hoffech dderbyn yr arolygon yma ar fformat gwahanol, neu os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau, yna cysylltwch â ni ar 0370 6060699, neu e-bostiwch ni ar rrp@mawwfire.gov.uk
» Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru
» Ddogfen Archif Lleihau Risg