
Lleihau Risg
Cynllunio i Leihau Risg
Mae ein Cynllun Strategol ar gyfer 2010-2015 yn traethu ein penderfyniad i gyflawni rhagoriaeth a chreu cymunedau mwy diogel. Pob blwyddyn, byddwn yn ymgynghori ynghylch yr hyn rydym ni eisiau ei gyflawni yn y flwyddyn sydd i ddod, a dros fisoedd yr haf fe wnaethom ofyn am ein barnau am ein Cynllun Gweithredu Blynyddol Drafft ar gyfer 2011-2012.
Mae'r Awdurdod Tân wedi ystyried yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad, a darperir y manylion yn llawn yn Adroddiad yr Ymgynghoriad on the Gynllun Gweithredu Blynyddol Drafft 2011-2012. Cymeradwywyd Cynllun Gweithredu Blynyddol terfynol 2011-2012 gan yr Awdurdod Tân yn ei gyfarfod ar y 25ain o Hydref 2010. Mae'r cynllun yn cynnwys gwybodaeth am Berfformiad a Gwella. Isod, ceir crynodeb o'r pum maes penodol y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn 2011-2012:-
Gynllun Gweithredu Blynyddol 2011-2012
Gwerth am Arian (Link to page 11 of Plan)
Rydym yn ymrwymedig i ddarparu'r Gwasanaeth Tân ac Achub gorau y medrir ei fforddio, ond hefyd mae angen i ni ddwyn i ystyriaeth y sialensiau ariannol sy'n wynebu Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae adolygiad manwl o'n Gwasanaeth yn cael ei gynnal, i ganfod ble y medrwn wella ein heffeithlonrwydd a gostwng costau.
Ymateb i Argyfwng (Link to page 12 of Plan)
Mae ein criwiau'n wynebu sefyllfaoedd peryglus ac anodd pan eu bod yn mynychu digwyddiadau. Rydym ni eisoes yn darparu lefelau uchel o hyfforddiant, ac rydym ni eisiau parhau i fuddsoddi a gwella diogelwch a lles ein gweithwyr.
Cydnerthu'r Gymuned Gyfan (Link to page 13 of Plan)
Mae'r gwasanaeth brys a ddarparwn ymhlith goreuon y byd, ond mae angen i ni sicrhau ein bod yn medru parhau i gynorthwyo ein cymunedau yn wyneb yr amgylchedd newidiol.
Yr Amgylchedd (Link to page 14 of Plan)
Rydym yn deall ein rôl wrth sicrhau bod ein hamgylchedd yno i bob un ohonom i'w fwynhau a'n bod yn ei ddiogelu ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod. Mae ein Strategaeth Cynaladwyedd a'r Amgylchedd yn traethu sut fyddwn yn cyfrannu tuag at yr agenda hwn. Bydd gweithio gyda phartneriaid lleol yn helpu cymunedau i ffynnu a thyfu a dod yn fwy cynaliadwy.
Gwaith Partneriaeth (Link to page 15 of Plan)
Gweithio gyda'n partneriaid yw'r ffordd orau i'n helpu ni i gyrraedd y bobl sydd fwyaf agored i niwed ac i gyflawni ein hamcanion diogelwch yn y gymuned. Rydym ni eisoes yn gweithio'n dda gyda'n partneriaid, yn enwedig wrth leihau llosgi bwriadol, ennyn diddordeb pobl Ifanc, diogelwch ar y ffordd ac wrth fynd allan i'n cymunedau, ond rydym ni eisoes gwneud mwy.
Ymgynghori yn y dyfodol
Os hoffech i'ch manylion cyswllt i gael eu hychwanegu at ein cronfa ddata ymgynghori, fel eich bod yn cael eich ystyried i gyfranogi mewn arolygon a digwyddiadau ymgynghori yn y dyfodol, cliciwch yma, os gwelwch yn dda.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau ar ein proses wella neu'r Cynllun Gweithredu Blynyddol, yna peidiwch ag oedi cysylltu â ni trwy:-
- Ffonio ni ar 0370 6060699 a gofyn am yr Adran Cynllunio Strategol a Pherfformiad.
- E-bostio: rrp@mawwfire.gov.uk
- Ysgrifennu at y Prif Swyddog Tân, Rhadbost, RSHB-XTJA-XKEC, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Heol Llwyn Pisgwydd, Caerfyrddin, SA31 1SP.
Ddogfen Archif Lleihau Risg