Byddwch yn barod os bydd llifogydd
Os ydych chi wedi gwneud ychydig o baratoadau, gallwch leihau’r difrod a’r gofid a achosir gan lifogydd yn sylweddol, yn enwedig os ydych chi’n byw mewn ardal lle mae perygl mawr o lifogydd, neu os ydych chi wedi cael llifogydd o’r blaen, neu os ydych chi’n oedrannus, yn wael eich iechyd neu’n anabl.
mwy »
Cyflwyniad
O fewn ardal Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae cyfanswm o bron i 31000 o adeiladau mewn perygl. O blith y rhain, mae bron i 24000 mewn perygl o lifogydd afon ac mae dros 7000 mewn perygl o lifogydd llanw.
Dilynwch y dolenni isod i weld a yw’ch cartref neu’ch busnes mewn perygl. Rydym yn argymell, os ydych chi mewn perygl, y dylech gofrestru ar gyfer Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol a dilyn y canllawiau cyngor.
Cyngor ar Lifogydd gan Asiantaeth yr Amgylchedd
Llinell Lifogydd – cofrestrwch ar gyfer Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol
Mae tua 5 miliwn o bobl yn y DU mewn perygl o lifogydd, felly dewch i wybod a ydych chi’n un ohonyn nhw. Darllenwch sut y gallwch chi amddiffyn eich hun a’ch cartref, ac a oes rhybuddion llifogydd ar gael yn eich ardal chi.
Cofrestrwch ar gyfer Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol
Ni allwn atal afonydd rhag gorlifo bob amser, ond gallwn roi gwybod i chi pryd y mae’n mynd i ddigwydd. Dim ond 30 y cant o’r cartrefi a all gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol sydd wedi cofrestru. Os nad ydych chi’n un ohonyn nhw, ffoniwch ni nawr ar 0845 988 1188.
mwy »
Rhybuddion llifogydd mewn grym
Gwybodaeth rhybuddion llifogydd ar gyfer eich ardal chi wedi’i diweddaru bob 15 munud.
mwy »
Canllawiau cyngor ar lifogydd
Cyngor ymarferol ar beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd. Mae ein tri chanllaw ar gael mewn PDF, print, ac maent bellach ar gael fel recordiadau MP3 neu CD ar wahân hefyd. Mae’r holl ganllawiau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
mwy »
A ydw i mewn perygl o lifogydd?
Defnyddiwch ein Map Llifogydd i ddarganfod pa mor debygol y mae llifogydd yn eich ardal chi. Gallwch hefyd wirio’r rhybuddion llifogydd presennol sydd mewn grym yn y fan hon a dod o hyd i ragor o fanylion ynglŷn â sut y gallai llifogydd effeithio ar eich yswiriant cartref.
mwy »
Paratoi ar gyfer llifogydd
Amddiffynnwch eich cartref neu’ch busnes rhag llifogydd drwy ddilyn ychydig o gamau syml. Hefyd, dewch i wybod sut y gall amddiffynfeydd llifogydd cartref leihau’r difrod i’ch eiddo.
mwy »
Llyfrgell lifogydd ar-lein
Dewch o hyd i’n canllawiau cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol arall ynglŷn â llifogydd i’w lawrlwytho.
mwy »
Dolen i Wefan Asiantaeth yr Amgylchedd »
Cyflwr y Tywydd o Amgylch y Gwasanaeth
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i weld data ar gyflwr y tywydd lleol.
dolen »
Cyngor ar Dywydd Garw
Gwefannau Perthynol