Paratoadau ymlaen llaw
- Gwiriwch fod eich yswiriant cartref yn ddigonol ac yn gyfredol.
- Cadwch gyflenwad bach o fagiau tywod gwag a thywod, sydd ar gael gan gyflenwyr adeiladwyr a siopau nwyddau haearn, y gellir eu defnyddio i amddiffyn drysau a fentiau aer.
- Efallai y byddwch am ystyried prynu byrddau llifogydd pwrpasol sy’n slotio i mewn i fframiau drysau a brics aer i’w selio’n dynn.
- Sicrhewch eich bod yn gwybod sut i ddiffodd eich nwy, trydan a dŵr pe bai angen.
- Paratowch bac llifogydd, gan gynnwys tortsh, blancedi, dillad gwrth-ddŵr, esgidiau glaw, radio cludadwy a yrrir gan fatri, pac cymorth cyntaf, menyg rwber a dogfennau personol allweddol. Cadwch ef lan llofft, os yw’n bosibl.
- Trafodwch lifogydd posibl gyda’ch teulu neu’r rheini rydych chi’n byw gyda nhw. Ystyriwch ysgrifennu cynllun llifogydd, a storiwch y nodiadau hyn gyda’ch pac llifogydd.
- Rhowch sylw i rybuddion llifogydd a gyhoeddir gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
- Lluniwch restr o rifau ffôn defnyddiol – gan gynnwys eich meddyg, milfeddyg ac yswiriwr cartref – a’i chadw mewn lle diogel.
Pan fydd bygythiad o lifogydd
- Llenwch fagiau tywod tua dwy ran o dair yn llawn a’u gosod yn eu lle, gan gofio i flocio brics aer ac agoriadau eraill ar lefel isel.
- Symudwch eitemau gwerthfawr a bwyd lan llofft.
- Sicrhewch fod gennych ddillad sbâr, dillad gwrth-ddŵr, esgidiau glaw, tortshis, batris, radio a bwyd wrth law. Gall cyflenwadau trydan a nwy gael eu hatal.
- Storiwch rywfaint o ddŵr yfed mewn poteli rhag ofn y bydd y cyflenwad cyhoeddus yn cael ei halogi gan lifddwr neu garthion.
- Gwiriwch fod cymdogion yn gwybod am unrhyw rybuddion llifogydd sydd wedi’u cyhoeddi, yn enwedig os ydynt yn oedrannus, yn sâl neu’n anabl.
- Cewch y wybodaeth ddiweddaraf drwy wrando ar eich gorsaf radio leol am fwletinau newyddion, neu ffoniwch y Llinell Lifogydd ar 0845 988 1188.
- Blociwch ddrysau (gyda byrddau llifogydd os ydynt ar gael) a fentiau aer gyda gorchuddion plastig a bagiau tywod.
- Dewch ag anifeiliaid anwes i mewn a darparwch badell wasarn.
- Paratowch i ddiffodd y cyflenwadau nwy, trydan a dŵr.
- Cadwch eich rhestr o rifau defnyddiol wrth law.
- Meddyliwch am eich car. I ble y gallech chi ei symud os bydd rhybudd llifogydd?
- Meddyliwch am feddyginiaeth. Os bydd llifogydd, bydd yn dal yn rhaid i chi ei chymryd.
Os yw eich cartref dan ddŵr
- Symudwch eich holl eiddo hoff cludadwy fel lluniau ac eitemau gwerthfawr lan llofft mewn bagiau plastig neu ar ben celfi trwm. Os ydych chi’n eiddil neu’n oedrannus, gofynnwch am gymorth gan ffrindiau neu gymdogion.
- Casglwch ddogfennau pwysig fel polisïau yswiriant, papurau cyfrifon banc, tystysgrifau geni a phriodas, pasbortau, llyfr rhent, tystysgrifau milfeddyg a thrwyddedau gyrru a’u cadw’n ddiogel ac wrth law rhag ofn y cewch eich symud.
- Symudwch fwyd lan llofft.
- Paciwch ddewis o ddillad twym, sych a hanfodion eraill fel meddyginiaeth a sbectolau.
- Symudwch eitemau allanol fel biniau sbwriel a chelfi’r ardd i leoliadau mwy diogel.
- Symudwch eich car i dir uwch os nad ydych chi’n bwriadu gadael eich eiddo.
- Os ydych chi wedi’i gadael yn rhy hwyr, gellir defnyddio casys gobenyddion wedi’u llenwi â phridd fel bagiau tywod dros dro.
- Os yw llifogydd yn debygol a’ch bod yn defnyddio bagiau tywod neu ddulliau eraill o amddiffyn eich eiddo, cofiwch amddiffyn brics aer hefyd.
- Gosodwch blygiau mewn sinciau a basnau a rhowch bwysau arnynt er mwyn atal gorlenwad i mewn i’r sinc.
- Gostyngwch gaeadau toiledau a gosodwch bwysau arnyn nhw hefyd.
- Codwch eitemau trydanol trwm fel oergelloedd, rhewgelloedd, peiriannau golchi dillad ar frics.
- Rholiwch garpedi a rygiau os yw’n bosibl a’u symud lan llofft. Dylid hefyd symud llenni os oes angen.
- Dylid symud celfi sy’n rhy drwm i’w cario lan llofft i ffwrdd o’r waliau gan y bydd hyn yn cyflymu’r amserau sychu os bydd llifogydd.
- Datgysylltwch beiriannau golchi dillad a pheiriannau golchi llestri er mwyn atal ôl-lifiad.
- Diffoddwch y nwy, trydan a’r dŵr wrth y prif gyflenwad.
- Arhoswch yn eich cartref os gallwch chi – symudwch lan llofft oni bai ei bod yn amlwg ei bod yn anniogel gwneud hynny.
Pan fydd y llifogydd yn encilio
- Cysylltwch â’ch yswirwyr cyn gynted â phosibl. Peidiwch â thaflu eitemau sydd wedi’u difrodi nes bod eich yswirwyr wedi’u harchwilio.
- Trefnwch fod eich trydan a’ch nwy yn cael eu gwirio gan eich cyflenwr neu dechnegydd cymwys cyn eu troi ymlaen.
- Taflwch unrhyw fwyd sydd wedi dod i gysylltiad â llifddwr.
- Cysylltwch â’ch cwmni dŵr os yw’r dŵr tap wedi newid lliw neu’n blasu’n wael.
- Awyrwch eich cartref gymaint â phosibl – po leiaf o leithder, lleiaf o ddifrod.
- Ceisiwch gyngor ynglŷn â gwaith atgyweirio gan gwmnïau cyfrifol yn unig gyda chymeradwyaeth eich cwmni yswiriant.
Pwy sy’n gwneud beth
Cyngor ar Lifogydd
Os oes yn rhaid i chi adael eich cartref