Cyngor ar Dywydd Garw
Ni ddylai modurwyr geisio gyrru drwy ffyrdd sydd dan ddŵr neu rydiau sydd wedi gorlifo. Mae’r dŵr yn aml yn ddyfnach nag y mae’n edrych a gall fod yn symud yn eithaf cyflym. Gall eich cerbyd gael ei ysgubo i ffwrdd neu fynd yn sownd.
Peidiwch â cheisio cerdded drwy fannau sydd dan ddŵr. Gall hyd yn oed dŵr bas sy’n symud yn gyflym eich ysgubo oddi ar eich traed a gall fod peryglon cudd fel draeniau agored, wynebau ffordd sydd wedi’u difrodi, rwbel suddedig neu sianelau dwfn; gall y rhain achosi anafiadau difrifol neu farwolaeth hyd yn oed.
Ni ddylid caniatáu i blant chwarae mewn llifddwr, a all gael ei halogi gan garthffosiaeth a chemegau.
Peidiwch ag ysmygu, bwyta neu yfed tra eich bod mewn cysylltiad â llifddwr a golchwch eich dwylo wedyn.
Cadwch lygad ar adroddiadau tywydd ar sianelau newyddion teledu neu radio lleol. Peidiwch â theithio yn ystod stormydd glaw trwm oni bai fod hynny’n hollol angenrheidiol.
Gofalwch am gymdogion. Mae’n hysbys bod pobl wedi dioddef o hypothermia ar ôl i’w cartrefi fod dan ddŵr glaw oer hyd yn oed yn yr haf.
Cofiwch, yn ystod storm, y bydd y gwasanaethau brys yn brysur iawn. Peidiwch â galw am gymorth ar unwaith oni bai fod perygl i fywyd neu ddifrod difrifol i eiddo neu’r amgylchedd.
Yn dilyn llifogydd yn eich cartref, sicrhewch fod yr holl gylchedau trydanol wedi’u sychu’n llwyr ac wedi’u gwirio gan beiriannydd trydanol cyn eu troi’n ôl ymlaen.
Gall pobl hefyd glicio ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd, www.environment-agency.gov.uk, i gael cyngor ymarferol ar atal llifogydd neu ffonio’r ‘llinell lifogydd’ ar 0845 988 1188.