www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Chwilio ac Achub Trefol

Cefndir

Yn dilyn digwyddiadau 911 yn yr Unol Daleithiau, gweithredodd Llywodraeth y DU raglen i sicrhau bod gan Gwasanaeth Tân y DU y gallu i ymdrin â digwyddiadau o’r fath petai nhw’n amlygu yma. Enw’r rhaglen oedd Dimensiwn Newydd.

Un o’r meysydd a ganfuwyd trwy’r rhaglen oedd yr angen i ddarparu gallu Chwilio ac Achub Trefol (USAR). I’r diben hwn, sefydlwyd 20 o dimau USAR yn y DU.

Mae gan y timau USAR y gallu i gyflawni gweithrediadau achub arbenigol i ddigwyddiadau sy’n cynnwys adeiladau cwymiedig, lleoedd cyfyng a digwyddiadau trafnidiaeth ar raddfa fawr.

Mae gan Gymru un o’r timau yma.


Strwythur y Tîm

Mae tîm USAR Cymru yn cynnwys aelodau o Wasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a De Cymru. Mae’r tîm ar alwad 24/7 365 diwrnod y flwyddyn.

Caiff aelodau’r Tîm eu hyfforddi mewn sgiliau achub arbenigol, i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau, ac mae’r sgiliau yma’n disgyn, yn eang, i’r categoriau canlynol:

  • Chwilio Technegol – Sef defnyddio camerâu arbenigol, offer gwrando a chŵn chwilio i ddod o hyd i glwyfedigion mewn malurion a rwbel.
  • Torri a Bylchu – Sef defnyddio amrywiaeth eang o offer i dorri malurion/rwbel i bentyrrau er mwyn rhyddhau clwyfedigion. Mae’r offer yma’n cynnwys torwyr concrid, llifiau cadwyn ac offer torri poeth i dorri metel.
  • Ategu – Sef defnyddio offer ategu alwminiwm dros dro neu bren i wneud strwythurau’n ddiogel i’r tîm i fynd i mewn i achub clwyfedigion.
  • Codi a Symud – Sef defnyddio winsiau, pwlïau a pheiriannau i godi a symud rwbel a malurion o’r lleoliad.

Hefyd, mae’r tîm wedi eu hyfforddi i weithredu mewn lleoedd cyfyng, yn cynnwys cael mynediad i dwneli a gwagleoedd.


Cŵn Chwilio ac Achub

Ar hyn o bryd, mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddau gi chwilio ac achub arbenigol. Mae’r cŵn yma wedi cael eu hyfforddi i ddod o hyd i glwyfedigion byw sy’n gaeth, ac yna maent yn dangos eu lleoliad i’r person sy’n eu trin.

Y cŵn yw:

Fflam –ci defaid saith blwydd oed sy’n cael ei drin gan y Rheolwr Gwylfa Arwel Hughes
Sparky –Labrador/ci defaid croes blwydd oed sy’n cael ei drin gan y Rheolwr Criw Roger Howells.
Yn ogystal, mae’r cŵn yma’n helpu’r Heddlu i chwilio am bobl sydd ar goll mewn ardaloedd agored ayb.


Cerbydau/Y Fflyd

Mae’r tîm USAR wedi’i gyfarparu â chyfres o bum mwdwl, sy’n ei ddarparu ag amrywiaeth eang o offer i cynnwys unrhyw sefyllfa.

Ceir manylion bras am y modylau isod:

Mwdwl 1

Uned caeedig yn seiliedig ar gynhwysedd ISO 20’, gyda drysau’n agor yn y cefn a’r ochr. Bydd y mwdwl yn darparu cymorth USAR yn ystod camau cynnar digwyddiad. Gellir agor y ddwy ochr trwy ddrysau cantilifer. Bydd tu mewn y mwdwl yn cynnwys raciau a silffoedd, ble bydd yr offer yn cael ei storio. Bydd y mwdwl yn cynnwys gallu gwresogi a gwyntyllu.

  • Asesu a diogelwch lleoliad
  • Chwilio technegol
  • Ategu dros dro – metel
  • Cynhyrchu pwer a goleuadau
  • Driliau a thorwyr concrid
  • Gweithio’n ddiogel ar uchder
  • Pren a thorri pren
  • Offer llaw
  • Bolltau ac angorau



Mwdwl 2

Uned caeedig yn seiliedig ar gynhwysedd ISO 20’, gyda drysau’n agor yn y cefn a’r ochr. Bydd y mwdwl hwn yn darparu offer achub trwm sydd ei angen mewn digwyddiadau mawr yn ymwneud â thrafnidiaeth. Gellir agor y ddwy ochr trwy ddrysau cantilifer. Bydd tu mewn y mwdwl yn cynnwys raciau a silffoedd, ble bydd yr offer yn cael ei storio. Bydd y mwdwl yn cynnwys gallu gwresogi a gwyntyllu.

  • Torri poeth
  • Offer hydrolig trwm
  • Gweithio mewn lle cyfyng
  • Mynediad ac achub â rhaffau
  • Llifiau cadwyn pren
  • Offer codi a symud
  • Cynhyrchu pwer a goleuadau
  • Offer mecaneg
  • Bolltau ac angorau



Mwdwl 3

Uned caeedig yn seiliedig ar gynhwysedd ISO 20’, gyda drysau’n agor yn y cefn a’r ochr. Bydd y mwdwl yn darparu cymorth achub trwm yn ystod camau datblygus digwyddiad. Gellir agor y ddwy ochr trwy ddrysau cantilifer. Bydd tu mewn y mwdwl yn cynnwys raciau a silffoedd, ble bydd yr offer yn cael ei storio. Bydd y mwdwl yn cynnwys gallu gwresogi a gwyntyllu.

  • Offer ategu pren
  • Offer hoelio
  • Bolltau ac angorau
  • Cynhyrchu pwer a goleuadau
  • Systemau codi gydag aer cynhwysedd mawr
  • Llifiau toriad cyflym
  • Llwyfannau mynediad a gweithio
  • Torri a bylchu hydrolig



Mwdwl 4

Uned agored yn seiliedig ar gynhwysedd ISO 20’ gydag ochrau sefydlog i uchder o 1.2m. Bydd y mwdwl yn cael ei ddefnyddio i gludo offer, yn cynnwys MPV a gall ymddwyn fel uned tipio ar gyfer symud malurion. Mae giat golfachog ar gefn y mwdwl, sy’n galluogi mynediad lled cyfan i’r mwdwl, ac mae’r giat yn ymgorffori fflap golfachog, i’w defnyddio pan fod y mwdwl yn gweithredu fel uned tipio.

  • Cerbyd Aml Bwrpas (Bobcat)
  • Atodion MPV
  • Cynhyrchu pwer a goleuadau
  • Cysgodfeydd cludadwy



Mwdwl 5

Uned gwely gwastad yn seiliedig ar gynhwysydd ISO 20’. Bydd y mwdwl yn cael ei ddefnyddio i gludo pren ac offer, ac mae’n ymgorffori gorchudd sy’n gogwyddo a mecanwaith diogelu llwyth.

  • Stôc pren, yn cynnwys rheseli, lletemau a phren swmp





Cludo Cŵn

Mae gan y rhai sy’n trin y cŵn MPV’au, gydag adrannau yn y cefn sy’n addas i gludo cŵn chwilio ac achub a’u hoffer perthynol. Mae’r cerbydau’n cynnwys y rheolaethau amgylcheddol priodol, offer cyfathrebu a gallu ‘golau glas’.


Hyfforddiant

Mae’r tîm USAR yn hyfforddi ddwywaith y mis, ac mae gan y tîm y fantais o fedru hyfforddi mewn cyfleuster hyfforddi a adeiladwyd i’r pwrpas, a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dyma oedd y cyfleuster cyntaf o’i fath tu allan i Goleg y Gwasanaeth Tân.

Os fyddwch chi angen unrhyw wybodaeth bellach am yr USAR, cysylltwch â Eric Bellew, Rheolwr yr USAR.




© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service