Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
(Mae'r calendr hwn yn adnodd deniadol ac ymarferol, a baratowyd mewn cydweithrediad â Diversiton; Mae pob mis yn cynnwys manylion am wyliau crefyddol a seciwlar – yn cynnwys gwyliau'r banc.
Manteisiwch ar y cyfle i ddarllen trwy'r calendr, os gwelwch yn dda, a chewch wybod mwy am y dyddiadau pwysig yn 2010.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth » (ddogfen Saesneg yn unig) (PDF, 1.70mb)
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Beth yw amrywiaeth?
Mae amrywiaeth yn ymwneud â deall gwahaniaeth a gwerthfawrogi a pharchu hunaniaeth pobl.
Mae rheoli amrywiaeth yn golygu cydnabod a pharchu’r ffaith fod pobl yn dod o gefndiroedd gwahanol, a’u bod yn medru dod â syniadau a safbwyntiau ffres, ac mae gweithio mewn harmoni wrth gyflawni eu rolau perthynol yn gwneud synnwyr busnes da, yn ogystal ag am resymau moesol a chymdeithasol.
Gellir manteisio i’r eithaf ar gael gweithlu amrywiol.
Daw gweithwyr, cwsmeriaid a budd-ddalwyr Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o amryw o gefndiroedd a diwylliannau, ac rydym yn ymrwymedig i amgylchedd sy’n cefnogi amrywiaeth a chydraddoldeb, a chredwn fod cofleidio ein polisïau a gwerthfawrogi ein gwahaniaethau’n allweddol i’n llwyddiant yn y dyfodol.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r gwahaniaeth yng nghefndiroedd a sgiliau’r gweithwyr, ac mae’n rhoi cydraddoldeb o ran cyfleoedd i’r holl weithwyr, waeth beth yw eu cenedl, gogwydd rhywiol, oedran, anabledd, hil, credo crefyddol, a daw deddf yr iaith Gymraeg o dan adain hawliau dynol.
Mae’n sicrhau y bydd recriwtiaid yn cael eu datblygu, eu talu a’u dyrchafu ar sail gallu, cymhwystra a pherfformiad wrth gyflawni’r rôl, a byddant yn derbyn hyfforddiant a chyfleoedd i ddatblygu o fewn y gwasanaeth.
Rheoli Risg Weithredol
Polisïau / Cynlluniau Perthynol
Dogfennau Perthynol
