www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Neges o Groeso gan Gadeirydd yr Awdurdod


Neges Groeso Gan Gadeirydd Newydd Yr Awdurdod

Rydw i wrth fy modd ac yn ei hystyried hi'n fraint fy mod wedi cael fy mhenodi'n Gadeirydd newydd Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar y 1af o Fehefin. Edrychaf ymlaen at weithio gyda fy Is-gadeirydd a etholwyd o'r newydd, sef y Cyng. Roy Llewellyn, sydd wedi bod yn effeithiol iawn wrth hyrwyddo iechyd, diogelwch a lles o fewn y sefydliad.

Er ein bod yn wynebu cyfnod anodd, rwyf fi a fy nghydweithwyr yn yr Awdurdod Tân yn hynod falch o fod yn gysylltiedig â, ac i fod yn rhan o, weledigaeth gyfunol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, i fod yn Sefydliad o Safon Fyd-eang; sy'n ymrwymedig i ddiogelu ein cymunedau, eiddo a'r amgylchedd rhag tân ac argyfyngau eraill, yn ogystal â darparu gwasanaethau dyngarol.

GTACGC yw'r trydydd Gwasanaeth Tân o ran maint daearyddol yn y DU, ac rydym yn cydnabod ein bod yn gwasanaethu cymunedau amrywiol ac unigolion sydd ag anghenion gwahanol. Mae'n rhaid trin pawb yn deg, yn ddiduedd ac yn gyson wrth iddynt ymdrin â'r Gwasanaeth. Yn ogystal, ein gweithlu yw ein hased pennaf ac mae'n bwysig ein bod yn cydnabod y cyfraniad eang ac amrywiol a wneir gan ein personél, byddent yn Ddiffoddwyr Tân Llawn Amser, yn Ddiffoddwyr Tân System Dyletswydd Wrth Gefn neu'n staff cymorth.

Mae'r Awdurdod Tân yn cynnwys 25 o aelodau etholedig, sy'n cynrychioli'r chwe Awdurdod Lleol yn ardal Gwasanaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Rôl yr aelodau yma yw cynrychioli barnau a buddiannau eu hawdurdod unedol cyfansoddol a'r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.

Cofion,
Cheryl Philpott

Ymunodd y Cynghorydd Philpott â'r Awdurdod Tân yn 2004, a bu'n gwasanaethu fel Is-gadeirydd o 2009 i 2011. Mae wedi cymryd diddordeb brwdfrydig a rhagweithiol mewn datblygu cynghorwyr, er mwyn sicrhau bod gan aelodau'r Awdurdod yr wybodaeth a'r arbenigedd i ystyried yr amrywiaeth eang o bynciau sy'n cael eu cyflwyno iddynt i'w hystyried.
© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service