www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Cyfarfod yr Awdurdod Tân


Dydd Llun, 01 Rhagfyr 2008

AM 11.00 YB GANOLFAN GYNADLEDDA
PENCADLYS Y GWASANAETH TÂN AC ACHUB,
CAERFYRDDIN

Agenda

  1. Ymddiheuriadau am Absenoldeb.
  2. Datganiad gan Aelodau o Unrhyw Fuddiannau Personol.
  3. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd / Materion Personol.
  4. I gadarnhau ac arwyddo cofnodion Cyfarfod yr Awdurdod Tân, a gynhaliwyd ar y 27ain o Hydref 2008, fel cofnod cywir.
  5. I dderbyn ac ystyried cofnodion y Pwyllgor Adolygu ac Archwilio Perfformiad, a gynhaliwyd ar yr 17eg o Dachwedd 2008.
  6. I dderbyn ac ystyried cofnodion y Pwyllgor Adnoddau, a gynhaliwyd ar yr 17eg o Dachwedd 2008, ynghyd â Chyd Adroddiad y Prif Swyddog Tân a’r Gyfarwyddwraig Adnoddau a Chaffaeliad ar Ofynion y Gyllideb ar gyfer 2009/10. (PDF, 40kb)
  7. I dderbyn cofnodion y Gweithgor Moderneiddio, a gynhaliwyd ar y 13eg o Hydref a’r 18fed o Dachwedd, a’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar y 13eg o Hydref, ac i gymeradwyo diwygiadau i’r Cyfansoddiad.
  8. I gymeradwyo’r Llythyr Archwilio Blynyddol, ac i dderbyn cyflwyniad arno gan Swyddfa Archwilio Cymru / KPMG.
  9. I dderbyn adroddiad ar Fwletin Ystadegol – Tanau Bwriadol 2006. (PDF, 44kb)
  10. Unrhyw eitemau arall o fusnes y mae’r Cadeirydd, oherwydd amgylchiadau arbennig, yn penderfynu y dylid eu hystyried fel mater o frys yn unol ag Adran 100(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

A T Howells
Clerc a Swyddog Monitro
24 Tachwedd 2008

Get Adobe Reader    What is a PDF?

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service