www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Cyfarfod yr Awdurdod Tân


Dydd Llun, 14 Rhagfyr 2009

AM 11.00 YB GANOLFAN GYNADLEDDA
PENCADLYS Y GWASANAETH TÂN AC ACHUB,
CAERFYRDDIN

Agenda

  1. Ymddiheuriadau am Absenoldeb.
  2. Datganiad gan Aelodau o unrhyw Fuddiannau Personol.
  3. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd / Materion Personol.
  4. I gadarnhau ac arwyddo cofnodion Cyfarfod yr Awdurdod Tân, a gynhaliwyd ar y 26ain o Hydref 2009, fel cofnod cywir.
  5. I dderbyn ac ystyried cofnodion y Pwyllgorau canlynol:

    i) Y Pwyllgor Safonau, a gynhaliwyd ar y 19eg o Hydref. 
    ii) Y Pwyllgor Datblygu Pobl a’r Gyfundrefn, a gynhaliwyd ar yr 2il o Dachwedd 2009.
    iii) Y Pwyllgor Adolygu ac Archwilio Perfformiad, a gynhaliwyd ar y 30ain o Dachwedd 2009.

  6. I gymeradwyo Llythyr Archwilio Blynyddol 2008/9.
  7. I dderbyn y Sicrwydd Gweithredol Cyflawni Gwasanaeth – Adroddiad Asesu Cymheiriaid 2009/10. (PDF, 44kb)
  8. I dderbyn ac ystyried cofnodion y Pwyllgor Adnoddau, a gynhaliwyd ar yr 16eg o Dachwedd 2009 a’r 30ain o Dachwedd 2009, ac:

    a) I dderbyn gohebiaeth i Gadeirydd yr Awdurdod Tân oddi wrth Gyddrefnydd rhanbarthol De Orllewin Cymru'r WLGA ac ymateb interim.
    b) I gymeradwyo Cyd Adroddiad y Prif Swyddog Tân a’r Gyfarwyddwraig Adnoddau ar Ofynion y Gyllideb ar gyfer 2010/11. (PDF, 77kb)

  9. I dderbyn Archwiliad Caffael Cludiant Swyddfa Archwilio Cymru. (PDF, 79kb)
  10. I dderbyn yr Adroddiad Cyflawni Gwasanaeth.
  11. I dderbyn adroddiad ar Anfon Tîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol (ISAR) Canolbarth a Gorllewin Cymru i Indonesia ar y 30ain o Fedi 2009. (PDF, 96kb)
  12. I dderbyn adroddiad ar Her Rwyfo’r Iwerydd. (PDF, 65kb)
  13. I dderbyn adroddiad ar yr ymweliad i Seremoni Cofio’r Cadoediad ym Mhorth Menin, Ypres, Gwlad Belg ar yr 11eg o Dachwedd 2009. (PDF, 99kb)
  14. I dderbyn adroddiad ar Ymddeoliad y Clerc / Swyddog Monitro presennol. (PDF, 114kb)
  15. Unrhyw eitemau arall o fusnes y mae’r Cadeirydd, oherwydd amgylchiadau arbennig, yn penderfynu y dylid eu hystyried fel mater o frys yn unol ag Adran  100(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

    SYLWER:

    Gan mai dyma’r cyfarfod olaf a drefnwyd cyn y Nadolig, mae’n bleser gennyf gadarnhau fod trefniadau wedi cael eu gwneud, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, i gynnal cinio bwffe i Aelodau’r Awdurdod Tân ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân, Caerfyrddin, yn syth wedi’r cyfarfod hwn.   

    Yn dilyn hyn, bydd ymweliad i Ganolfan Reoli’r Gwasanaeth, ac rydym yn cymell yr holl Aelodau i fynychu.

A T Howells
Clerc a Swyddog Monitro
7fed o Ragfyr 2009

Get Adobe Reader    What is a PDF?

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service