www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Cyfarfod yr Awdurdod Tân


Dydd Llun, 27 Gorffennaf 2009

AM 11.00 YB GANOLFAN GYNADLEDDA
PENCADLYS Y GWASANAETH TÂN AC ACHUB,
CAERFYRDDIN

Agenda

  1. Ymddiheuriadau am Absenoldeb.
  2. Datganiad gan Aelodau o unrhyw Fuddiannau Personol.
  3. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd / Materion Personol.
  4. Nid yw’r adroddiadau sy’n ymwneud â’r eitemau canlynol i’w cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y diffiniwyd ym mharagraffau 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

    Os fydd y Pwyllgor, wedi cymhwyso Prawf Lles y Cyhoedd, yn penderfynu’n unol â’r Ddeddf i ystyried yr eitemau yma yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y fath ystyriaeth

    Yn y mater hwn, Prawf Lles y Cyhoedd yw:-

    “Mae’r adroddiad yn ymwneud ag Swyddu Prif Swyddog Tân Cynorthwyol. Petai’r wybodaeth yma ar gael i’r cyhoedd buasai’n datgelu data personol sy’n ymwneud ag unigolion sy’n groes i egwyddorion y Ddeddf Diogelu Data. Felly mae lles y cyhoedd wrth gynnal cyfrinachedd yn gorbwyso lles y cyhoedd wrth ei ddatgelu.”

    ARGYMHELLIR yn holl amgylchiadau’r achos, bod lles y cyhoedd wrth gynnal yr eithriad yn gorbwyso lles y cyhoedd wrth ddatgelu’r wybodaeth.
  5. I dderbyn ac ystyried cofnodion y Panel Paratoi Rhestr Fer, a gynhaliwyd ar yr 22ain o Orffennaf 2009
  6. I gyfweld yr ymgeiswyr ar y rhestr fer
  7. Unrhyw eitemau arall o fusnes y mae’r Cadeirydd, oherwydd amgylchiadau arbennig, yn penderfynu y dylid eu hystyried fel mater o frys yn unol ag Adran 100(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

A T Howells
Clerc a Swyddog Monitro
20fed o Orffennaf 2009

Get Adobe Reader    What is a PDF?

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service